Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

U EUÎ|GRAWN WESLEYJUDD, A WST , 1896. AWGRYMAU I WEINIDOGION AR EU HORDEINIAD I GYFLAWN WAITH Y WEINIDOGAETH, Yn Nghynadledd Lerpwl, Dydd Sadwrn, Âwst laf, 1896, yn Mynydd Seion. GAN Y PABCH. HUGH JOMBS, Cadtirydd Taìaelh Gogledd Cymru. 1 Tim. iii. 14, 15 : " Y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder. Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhỳ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwfe. ionedd." §EWISWYD y geiriau uchod yn benawd ychydig o sylwadau aryr achlysur presenol, nid am eu bod wrthynt eu hunain yn eu cynal, ond am eu bod yn allwedd i'r oll sydd yn cael ei draethu yn yr epistol ar waith " gweinidog da i Iesu Grist." " Y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu atat * * * fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhý Dduw." Mae yn un o'r epistolau bugeiliol, ac yn cynwys nid yn unig gyfarwyddiadau i Timotheus pa fodd i weìthredu ya ngwyneb yr amgylchiadau neillduol oedd yn perthyn i eglwys Ephesus, ond mae hefyd yn traethu ar gymhwysterau a gwaith esgob yn gyffredinol, fel ag y mae yn safon awdurdodedig i benderfynu befch yw y cymhwysterau angenrheidiol ar gyfer swydd a gwaith gweinidog- ion Crist yn mhob oes a gwlad, ac o dan bob amgylchiad. Yr ydych wedi eich neilltuo heddyw i gyflawn waith y weinidogaeth Gristionogol; ac mae yn un o ddigwyddiadau pwysicaf eich bywyd. Diau eich bod yn teimlo hyny ; ac y bydd unrhyw air a thuedd ynddo i'ch cynorthwyo i gyflawni eich gwaith yn effeithiol a Uwyddianus yn werthfawr genych. Yr wyf yn gwbl argyhoeddedig nad wyf yn alluog i'ch dysgu yn y pethau mawrion a phwysig hyn ; ond mae ychydig o sylwadaeth a phrofiad yn rhyw gymaint o gymhwyster i roddi ychydig o awgrymiadau a allant fod yn fanteisiol i chwi. Mae rhai pethau sydd yn hanfodol er eich galluogi i gyflawni eich swydd; ac mae pethau ereill, er nad yn hanfodol, er hyny sydd yn fanteisiol i'w chyflawni yn llwyddianus. Yr amcan yn hyn o sylwadau fyâd gwahodd eich sylw at y naill a'r llall o'r pethau hyn. Mae yr arholiadau lluosog y daethoch trwyddynt yn llwyddianus, a'r prawf maith sydd wedi bod arnoch, yn fy ngaliuogi i gymeryd BHAI PETHAU YN GANIATAOL. l' Y"r wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi eich gwir ddy* chwelyd at Dduw, ac yn medduprofiad o wir grefydd. Yr ydych wedi^ z Oyf. 88.