Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EUfjGBAWN WESLEYJUDD. TAOHWEDD, 1896. COFIANT MR RICHARD OWEN, TY NEWYDD, BRONTECWYN. GAN Y PARCH. BOWIiAND ROWLANDS. (Parhad tudal. 368.) ÿS AFODD Mr a Mrs Owen eu bendithio â lluaws o blant. Bu rhai 1Ki ohonynt farw yn eu mabandod, a dwy ferch farw yn yr oedran ká> tyner o saith mlwydd oed. Mae yn aros bump o feibion ac un ferch, yn dwyn yr enwau William, Evan, Edmund, Richard, Lewis, ac Elizabeth. Nid wyf wedi gosod eu henwau i lawr yn ol eu hoedran. Mae William yn byw yn Garthbyr, hen gartref ei fam rinweddol; ac mae ef a'i deulu yn egniol a ffyddlon o blaid yr achos yn Brontecwyn, a'u drws bob amser yn agored i dderbyn a chroesawi pregethwyr. Ac yno, fel rheol, bydd y pregethwr yn myned pan ar ei ffordd o Brontec- wyn i Soar, ac ni cheir caredigrwydd purach yn unman. Wedi marwol- aeth ei dad, penodwyd William yn flaenor ar eglwys Brontecwyn yn ei le. Er ei fod o yspryd enciliol, yr oedd y swydd bwysig hon yn dod i'w ran yn esmwyth a naturiol. Mae Evan yn byw mewn amaethdy gerllaw Talysarnau, ac Edmund mewn tyddyn bychan gerllaw Tý Newydd, a thyaid o blant wedi eu hymddiried i'w ofal. Richard oedd y diweddaf o'r meibion i briodi, a phan gymerodd yr amgylchiad hwn le, aeth ef a'i briod i fyw i anedd-dỳ bychan yn Brontecwyn, ond aros- odd yn hwsmon i'w dad hyd adeg ei farwolaeth, ac yna aeth ef a'i deulu yno i fyw. Teimla yntau ddyddordeb dwfn yn yr achos yn Brontecwyn, ac yn barod i wneyd unrhyw beth er ei lwyddiant; fel y gwelir y bydd Tŷ Newydd eto yn gysgod a chynaliaeth i'r achos bach oedd yn gorwedd mor agos at galon ein gwrthddrych, a gobeithio yr erys felly tra bydd yr Eglwys Wesleyaidd mewn bod yn y gymydog- aeth. Y mab arall ydyw y Parch. Lewis Owen, arolygwr parchus a llwyddianus un o'r cylchdeitbiau pwysicaf, ac ar amryw gyfrifon y bwysicaf yn y Dalaeth—Cylchdaith Coedpoeth. Arosodd Elizabeth yn ddibriod tra bu ei thad byw, er mwyn cael bod gydag ef yn Tŷ Newydd i ofalu amdano, ac i weini arno. Cyflawnodd y gorchwyl yma am dros ugain mlynedd, a hyny yn y modd mwyaf effeithiol. Do, bu yn dyner rhyfeddol ohono, ac yn garedig tuag ato mewn amser ac allan o amser. Nid oedd modd bod yn fwy gofalus a charedig wrth neb nag y bu hi wrth ei thaJ, o adeg marwolaeth ei mam hyd ei farwolaeth et Nid oedd dim yn ormod ganddi wneyd er mwyn ei gysur. Ei llawen- yád mwyaf oedd cael gweini arno, a bodo ryw wasanaeth iddo. Yn, ' 2 i Oyf. 88.