Symud i'r prif gynnwys

364 CYFAILL YR AELWYD A'R FRYTHONES 15. — Y Cymry, yn cael eu cynorthwyo gan y Daniaid o Dublin, yn dinystrio dyfíryn yr Wŷ, 1049. 16.—S. Edith. Yr oedd pumpo Seintiau gan y Saxoniaid ar yr enw hwn. Mae Llanedy, Caerfyrddin, ar enw un o honynt. 17.—Y Cadridog Syr Wm. Nott yn cyrhaedd Cabwl, ac mewn undeb a'r Cad- fridog Pollock yn cymeryd y ddinas, 1842. 18.—M. Gutyn Peris, 1838. Brwydr Trefaldwyn, 1644. 19.— M. George Jones, R.A., Arlunydd Brwydrau, 1869 : yr oedd gyda'r fyddin pan feddianwyd Paris, yn 1815 ; yr oedd yn un a apwyntiwyd gan Turner fel sectwr ei ewyllys olaf ; ganwyd Ionawr 6ed, 1786. Brwydf Poictiers, Syr Hywel y Fwyall, ceidwad Castell Criccieth, yno a'i fwyall rhyfel. Torodd ymaith ben march Brenin Ffrainc, a chymerodd y marchogwr yn garcharor, ac am ei wasanaeth, gwnaeth y Tywysog Du ef yn Farchog ar faes y frwydr, 1356. 20.—S. Winifred. Cyhoeddi Owain Glyndwr yn Dywysog Cymru, 1400. 21.—S. S. Maurice, Mathew. Gwnaeth un Phillip Morice, a fu farw yn Gorph., 1773, orchymyn yn ei ewyllysîod i 31 o benau lloi gael eu dos- barthu rhwng tlodion Aberteifì ar ddydd Gwyl Fatho, sef ei ben blwydd ef. Bu yn arferiad yn Morganwg yn mhlith rha.i teuluoedd, bod ar eu bwrdd ar y 30 o Ionawr, ben llo wedi ei drin i ginio, yn goffadwriaeth am ferthyrdod Charles I. 22.—Llongddrylliad Syr Cloudesley Shovel ar ororau Sir Benfro, 1707. Ffurfio'r Cyngrair Celtaidd, 1886. 23.—S. Tegla. M. Thomas Harris, brawd Joseph a Howel Harris o Drefecca, 1782: teiliwr wrth ei alwedigaeth yn Llundain, gwnaeth gyfoeth mawf wrth wneyd dillad i'r fyddin, a phrynodd etifeddiaeth yn Tregunter, Trefecca, a'r cyffìniau. Yr oedd yn Sirif Brycheiniog yn 1768. 24.—M. S. R. 25.—S.S. Caian, Bengan. M. Rowland Meyrick, D.D., Esgob Bangor, 1565. Edward Llwyd, yr Henafiaethydd, yn dyddio llythyr o'rBontfaen, 1697: mae yn sylwi ar amryw olion henafiaethol yn Morganwg, ac yn cyfeirío yn neillduol at y Groes yn Merthyr Mawr. 26.—S.S. Barwg, Elfan. Myned i gwrdd yn y Sevevn Tunneî, ac wrth dyllu at eu gilydd o bob ochr, nid oeddynt ond tair modfedd o fod yn cyfarfod, 1881. M. Joseph Harris, Trefecca, 1764: gof wrth ei alwedigaeth, ond cyrhaeddodd wybodaeth wyddonol eang drwy hunan-ddiwylliad, a daeth yn un o'r awdurdodau penaf yn y Mint. Claddwyd yn y Twr yti Llundain. M. Richard Parry, D.D., Esgob Llanelwy, 1623 : adolygodd gyfieithad o'r Beibl Cymraeg, sef yr un arferir yn awr. 27.—M. Whitfield, 1770. M. Isaac Maddocks, D.D., Esgob Worcester, 1759, a fu yn Esgob Llanelwy o 1736 i 1743. 28.—S. Cyneitho. M. John Jones, LL.D., brodor o Derwydd, Llandybie, Caer- fyrddin, 1837: yr oodd yn far-gyfreithiwr enwog, ond o dymher afryw- iog, yr hyn fu yn ddinystr i'w lwyddiant: awdwr Hanes Cymru. 29.—S.S. Padarn, Teilo, Guyl Mihangel. Darganfod penwisgoedd copr 0 wneuthuriad cywrain yn agos i'r Aberogwr, 1818. Yr oedd penglogau yn y penwisgoedd hefyd pan eu darganfyddwyd: bernir eu bod yfl perthyn i'r Brythoniaid. Cafwyd llafnau hefyd yn yr un fan, ond ar eU gwaith yn cael eu cludo i Lundain, aethant ar goll, ac ni chlybuwyd dim am danynt mwy. M. Owen Myfyr, 1814. 30.—-S. Nidan. M. John Salisbury, Deon Norwich, Esgob Sodor and Man, genedigol o Swydd Dinbych, 1573. Llanelli : Abgraffwyd a. Chyhobdwydd gan D. Wtlliams a'i Fab