Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD CREFYDDOL, 6WLÄDOL, PERORIAETHOL, &c. &c. &c. Rhif. 11.] TACHWEDD, 1828. [Cyf. VII. TRAETHIADAU. N O D I A D A U ER DANGOS NAD YW DYN I DREULIO EI DDYDDIAU YN SEGUR YSBRYDAWL YN Y BYD HWN. 1 N y byd hwn y mae y Duw raawr yn gweithio, ac y inae'r duwiolion hefyd yn gweithio, pan y mae'r an- nuwiolion yn díogi ac yn cysgu ar glustog fawr o anwybodaeth, &c. Yn bresennol gosodaf gerbron rai nodiad- au er dangos fod dyn i weithio ar faes y byd. 1. Wrth gofio ac edrych ar brif ddyben y Duw mawr yn bwriadu, yn creu, ac yn anfon dyn i'r byd. Dyma oedd ei unigol amcan, er ei wasan- aethu a'i ogoneddu ef, &c. Iddo ei ìiuii y lluniodd ef, ac nid i arall, Esa. 43. 7, 21.; sef, i fod yn arwydd o'i allu, yn dyst trosto, i'w wasanaethu, &c. Creaduriaid Duw ydym; efe roddodd fodoliaeth ynom; efe a'n gwthiodd i'r byd; ynddo yr ydym yn bodoli a byw; a'n dyledswydd yn ben- af ac yn unig ydyw ei wasanaethu ef. 2. Ymddengys nad ydym i fod yn segur wrth sylwi a gwrando ar lais Gair üuw. Gorchyrayna, annoga, a chyfarwydda ni at ein gwaith, a hyny yn brydlon, yn daer, ac yn barhaus;—" Gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn,'' Phil. 2.12. " Llafuriwch, nid am y bwyd a dderfydd, ond am y bwyd a bery i fywyd tragywyddol," Ioan 6. 27. " Eithr yn gwneuthur da- ioni na dd'íogwn," &c. A rhyfedd hefyd fel yr annoga yr Apostol Paul y Corinthiaid at eu gwaith, 1 Cor. 15. Hawdd y gallesid enwi Hawer o ys- grythyrau er profi y mater crybwyll- edig. 3. Ymddengys nad ydytn i fod yu segur yn y byd hwn wrth fanwl sylwi ar ddull ac agwedd y greadigaeth fawr, yn nghyda'r bodau wybrenol fry, &c. Pregetha y greadigaeth i ni ei bod yn gwasanaeth y Creawdwr; a pha mor ufudd, ewyllysgar, diwyd, a ífyddlon, y gwasanaetha yr haul a'r lleuad eu Crëwr. At dy waith, medd y rhai yn eu hagwedd a'u heífaith wrth y dyn. Bellach gofyuaf, gan fod y pethau hyn sydd farwol a diflanedig yn ufuddhau, pa faint mwy y gwedd- ai i ddyn ufuddhau a gwasanaethu eî Greawdwr, yr hwn a fodola byth, ac a fydd byth naill ai yn berl yn nghoron gyfryngol lesu, neu ynte yn nod, neu yn bentewyn, yn y fRamiau uffernol? Efallai y bydd y greadigaeth, a'r peth- auaenwyd eisioes, yn dystion ofnad- wy yn erbyn y di'og yn y farn dragy- wyddol. 4. Ymddengys nad ydym i fod yn segur yn y byd hwn, pan y craffwn ac y sylwn ar agwedd Crist pan y bu ef yma. Nid oedd yn caru nac yn mwynhau bywyd segur a dilafur; ond yr oedd yn myned oddiamgylch gan wneuthur däioni i gyrph ac eneidiau. Yr oedd yn cydnabod fod gan ei Dad waith wedi ei fwriadu iddo;—" Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfon- odd," Ioan 9. 4. Fel pe dywedasai, rhaid i mi wneyd gwyrthiau, iachau'r 2 S