Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD CREFYDDOL, &c. Rhif. 90.] M E H E FI N, 1829. Cyf. VIII. B7W6RAFFIAD JENKIN DAYIES, BLAENBELE, SWYDD GAERFYRDDIN. Ganwyd Jenkin Davies yn 1785, yn y Gwarglodith, (nid oes yno yn awr yr un annedd), yn mhlwyf Llan- Uwni, Swydd Gaerfyrddin. Hanodd o rieni crefyddol, y rhai oeddynt ael- odau o eglwys Crist yn Mhencader, Swydd Caerfyrddin. Nid oes genyf ddim yn neillduol i ddywedyd am y Irancedig pan yn blentyn gyda'i rieni; ond fod ynddo dueddiadau crefyddol er yn ieuanc, a hyny yn neillduol ar rai amseran. Clywais ef yn dywedyd lawer gwaith, ei fod yn gorfod myned yn aml ar ei liniau i weddì'o wrtho ei hunan, a'i fod yn mwynhau llawer o hyfrydwch yn hyny. Yroedd ar droi- au yn teimlo awydd yn ei feddwl am grefydd, achariad at achos Mab Ouw, am rai blynyddau cyn iddo roddi ei ysgwydd yn gyflawn odditan yr arch. Cof genyf am lawer o droion a adrodd- odd wrthyf,—yn neillduol un tro pan yn gwrandaw y Parch. T. Davies, Pant-têg, yn pregethu. Fel yr oedd Mr. Daviesyncanfod fod rhyw argraff- iadau ar ei feddwl odditan ei weinid- ogaeth, nododd ef allan â'i fys, gan lefaru wrtlio efyn bersonolamogoniant crefydd a gwerth enaid, yr hyn oedd yn arferiad gan yr hen bererin. Der- byniwyd ef yn aelod yn Mhencader, pan yn 21 oed, gan y Parch B. Jones, yr hwn oedd yn weinidog ynoyramser hwnw, ac wedi hyny yn Mhwllheli, Ue y gorphenodd ei yrfa. Tua phedair blynedd wedi i Mr. Davies ddyfod at grefydd, priododd Mary Jones, merch o'r Blaenbele, lle yr arosodd hyd ei fedd, yr hon sydd yn awr, yn nghyda phedaír merch, yn j galaru ar ei ol. Mae'n debygol fod ei farwolaethwedibod ofendith i'w ferch ieuangaf i'w thneddu at grefydd. Yn awr y mae y fam a'i phedair merch, nid yn unig yn galaru ar ei ol, ond j hefyd yn llafurio i ganlyn ei siampl I mewn pob peth da, a myned i'r un | man ag ef i fyw byth. Bu Mr. Davies yn aelod hardd gyda chrefydd am 50 mlynedd, ac yn agos i hanner y blynyddoedd hyn yn swyddwr I yn yv eglwys, heb roddi un achos iddo j gael ei droi o'r frawdoliaeth yr holl | flynyddau hyny. Mae achns i ofni fod ! llawer yn treulio blynyddau meithion I yn nhý Dduw, ag y gall achos Duvr ddweyd wrthynt, Pa les i mi fu eich cannoedd a'ch miloedd punnau, eich , talentau a'ch hir flynyddau yn y byd ? j Ond nid felly am y trancedig hwn. Bu yn gynnorthwy mawriachos Iesu Grist mewn llawer ystyr. Yr oedd gyda'r blaenaf mewn cyfraniadau at yr achos, a chlywais ef lawer gwaith yn annog a chymhell eraill ag a fyddai yn brin eu cyfraniadau i roddi yn helaethach; a ' da fyddai i holl swyddwyr eglwysig [ ymdebygoli iddo yn hyn. Ac os yw biaenoriaid yr eglwysi am weled yr achos goreu yn blaguro yn eu mysg, rhaid eu bod hwy eu hunain yn helaeth- ion yn y gras hwn. Yr oedd yn enwog am gadw ei gydgynhulliad. Clywais uu brawd yn y weinidogaeth ag oedd yn adnabyddus iawn o hono, cyn i mî ei adwaen, yn dywedyd nad yn gyflf- redin y gwelodd efe ef yn eisiau yn y cyfarfodydd pwy bynag fyddai yn absennol. Gallaf finau ddywedyd yr up peth am dano. Yr oedd yn rhagori,