Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYD Rhif. 8.] AWST, 1824. [Cyf. III. COFIANT BYR A*TN, Gwraig Mr. JOHN HUGHES, Cwm-carnedd-uchaf, LLANBRYNMAIR. MERCH ydoedd i Mr. John Jones, o Benybont. Tuedd ymofyngar a meddylgar ydoedd un o brif nodwedd- iadau dyddíau ei raebyd. Hoffai neülduaeth er mwyn cael cyfle i ddarllen a myfyrio. Pan yn nghylch deg oed, dechreuodd ymhyfrydu yn fawr yn yr Ysgol Sabbothol yn Nhrefolwern, ac ymdrechaiyn barhaus i gael budd iddi ei hun, ac i fod yn fuddiol i ereiM. Nid oedd ynddi duedd i grwydro o Ysgol i Ysgol; a phwy bynag fyddai yn absennol, gwelid Ann yn ei lle. Yr ydoedd yn meddu deall treiddgar a chof rhagorol; a thrwy fod yn ddiwyd yn yr ymarferiad o honynt, daeth yn hynod gyfarwydd yu ngair y gwirion- edd, ac yn egwyddorion Cristionog- aetb. Pan ÿn nghylch unarbymtheg oed, neillduwyd hi i föd yn athrawes yn yr Ysgol Sabbothol. Yn y sefyllfa hon ymdrechai â'iholl egni i leshau y rhai oeddynt dan ei gofal, ac i'w dwyn i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; Paa yn bedair ar bymtheg oed, priododd, a syinudodd i Gwmcarnedd; _ ac yn mhen ychydig o fisoedd wedi hyny, derbyniwyd hi yn aelod eglwys- ig. Bu yn hîr ddisgwyl, cyn çael ei derbyn, i ryw gyfnewidiad neillduol a disÿmwth gymeryd lle yn ei theiralad- au a'i phrefiad; ac o herwydd na chafodd brofi hyn, yn ol ei disgwyliad, yr oedd, fel llawer o'r cyffelyb, dau ofnan mawr nad ydoedd y n feddiannol ar " wreiddyn y mater." Yr oedd yn awr mewn sefyllfa i ddangos ei charedigrwydd mewn am- rywiol ffyrdd tuag at achos yr Ar- glwydd, a'i hyfrydwch penaf ydoedd cael cyfic i estyn ilaw i gynnorthwyo yn nygiad arch Duw tuag adref. Nid oedd neb mewncyffelyb amgylchiadau yn ymarfer yn fwy dìwyd â holl ranau gwasanaeth tỳ yr Arglwydd. Parha- odd i ymhyfrydu yn ymarferiadauyr Ysgol Sabbothol; ac er fod ganddî deulu Uuosog dan ei gofal, anami iawn y byddai yn absennol. Yr oedd yn ymbleseru yn y gwaith â'i holl galon, ac nid rhwystr bychan a'i cadwai oddiwrtho. Ond, pan ydoedd ei chyfeillion a'i pherthynasau yn disgwyl iddi fyw dros lawer o faith flynyddau i fod yn ddefnyddiol yn yr ardal aç yn yr eglwys, ac i ddwyn i fynu deuiu o blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd—i fod mewn defnyddiol- deb a pharch yn y gymydogaeth, ac i fod yn ymgeledd i achos Iesu Grist, 2 D