Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 166] MEDI 1835. [Cyf. XIV. COFIANT Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, LLANDDANIEL. Un o gymmydogaeth Llanrwst, yn Sîr Ddinbych, oedd Mr. W. Roberts; dyn byr o gorffblaeth oedd ef, eithr cryf a gafaelgar; pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo, efe a wnai hyny â'i holl egni; gweithiodd yn galedadiwyd iawn yn nyddiau ei ieuenctid, a gofalodd fel dyn cynnil am ei gyflog; ac wedi dechreu meddwl am y Weinidogaeth santaidd, prynodd ei ddysgeidiaeth yn yr ysgol gyda'r Parehedig T. Phillips o'r Neu- addlwyd; ac fel prawf o'i fod efyn ddyn diolchgar, hofFai son yn fynych ac ynbarchus am enw a chynghorion TVlr. Phillips. Gwedi sefydlu yn Sir Fon, llafuriodd yn ddiwyd iawn, gan weinyddu mewn tri o gapeli, sef Hermon, Groeslon, a Llanddan- iel, y lleoedd hefyd a lenwir yn awr gan y Parchedig Ismael Jones, ei ganlyniedydd. Gwedi bod rai blynyddoedd yn y gwaith sautaidd priododd Mr. Roberts wraig weddw, yn byw mewn tyddyn bychan cryno, eithr a wnaed yn llawer gwell wedi iddo ef ddyfod iddo i reoli a chyfarwyddo, canys yr oedd efe yn fedrus yn y ffbrdd hòno. Yn mhen rhyw gymmaint o amser gwan- ychodd Mr. R. dan y clefyd a elwir, cryd melyn; dyoddefodd lawer ar amserau, ond pryd y cai hamdden llonai yn fawr, a phre- gethai mor wrol fel y tybiai y bobl ei fodyn gwellâu; ond ei ofid a ddychwelai, ac oedd wybodus iddo ei hun: fel hyny, efe a bar- haodd hyd y diwedd, weithiau yu rhy wan i wneud dim, ac eilwaith clywai arno wneud llawer; bob yn ail, hyd oni orweddodd ar y gwely, o'r hwnnichododd i wneud ychwan- eg yma yn y cyssegr. Pan y deallais ei fod yn rhy wani godi o'i wely at ei waith, aethym i ymweled ag ef. Dywedodd, Fy nghalon sydd ddiolchgar i chwi am eich serehog gymdeithas yn wastad^ ac am ddyfod i ymweled â mi ar y gwely yma, lle yr wyf heb allu i fyned o hono. Ni chefais i bob nn yn gyfeillgar a chynnorth- wyol fel chwi. Na ddo! na ddo! Diolch i chwi yn awr. O y mae rhyw gamfagwraeth, 33 neu yn hytrach, diflyg magwraeth dda, yu iselhau rhai dynion yn salwach mewn swydd a chymdeithas, nag y mae codwm Eden gwedi eu gadael! Pe na buasent yn cael esgus oddiwrth swydd, ni buasent o fewn cymdeithas! Pe na buasent o fewn cynideithas, ni buasent yn siomi undyn! Ni feddant galon gweithior ac ni feddant syn- wyr na dysgeidiaeth ddigon i beri iddynt sefyll oddiar y ffbrdd ! Na, na, ni feddant ddawn i ddim, ond i wneud saethau, athrwy chwedlau heb eu chwilio allan, irant eu saelhau llymion à'u gwenwyn hwy, ac wedi hyny achubant eu cyfleusdra i saethu, er yn enw yrachosgoreu, heb wybod, acheb ofalu pwy na pha faint a glwyfir! ac yn eu tym- herau naturiol afrywiog, gwnaent eupethau chwithig o gydwybod! ac o ganlyniadrhaid i mi farnu fod eu cydwybodau yr uncyflwr ag y bu Saul o Tarsus cyn gras y bywyd ! O y maentgwedi bod i mi fel Ehwd i Eglou ! (Yma enwodd rai personau, o'u rhif hwy y mae rhai gwedi darfod ag yma.) Cymmer- wyd achlysur i feio arnaf oblegid i mi briodi y wraig yma. Gwir yw, y mae hi yn hýn o oedran na mi, ond yr oedd yn dda i mi ei chael, yr oedd hithau yn dewis fy nghael innau. Ni wyddwn i gynt fod yr un arall mewn ewyllys i mi, canys nis gofalais, ac y mae hi gwedi fy ngharu i a fy swydd, a chwedi fy ymgeleddu i yn ddiwyd, mewn gwendid ar y gwely yma yn hir bellach, er hynnidyw yn pallu yn ei ffyddloudeb. Y mae arnaf rwymau i ddiolch i Ragluniaeth am gartref ac ymgeledd. Anwyl frawd, eb y fi, yr ydwyf yn gwr- ando arnoch yn adrodd eich doluriau, a'r archollion a gawsoch, yn nghyda'ch cydnab- yddiaeth o ddaioniDuw yn nghymmysg a'r garw driniaeth dan y dynion hyny. Yr ydwyf fi yn cydymdeimlo â chwi yn wir. Fe allai y deuant i ymweled â chwi pan y deallont eich bod yn gorwedd, ac yn methu cadw at waith y Sabbotb; mi a allaf anfon hysbysiad i rai am danoch, a thebyg y clyw