Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 197.] EBRILL, 1S38. [Cyp. XVII. BYWGIIAFFIAD MR. JOHN OWEN, TY CRWN, YX AGOS I GAPEL PARADWYS, MON. CoFFElR gyda mawr frwdfrydedd am hy. awdledd ymadrodd yr areithiwr, doethineb mesurau y seneddwr, buddugoliaefhau y rhyfelwr, ac am rymus orchestion y gwlad- garwr. Dygir i gof gywreinbin yr arliw- ydd, awen y bardd, diwydrwydd yr hanes- ydd, doniau y cyhoedd-lafarwr, a defnyddir cyfoeth, llafur, a dyfais yr hil ddynol i enwogi eu coffadwriaeth, ac i beri fod eu henwau yn treiglo i oesoedd dyfodol gyda bri a mawredd. Pan fyddo un o honynt yn syrthio dan garnau y march gwelwlas, a thanddynodiau angeuol eifarchogyn rhoddi ì fyny yr ysbryd,—galerir yn ddwys am danynt, tristwch a phrudd-der a leinw lawer bron. ÎS'id felly y mae ar ol y Cristion duwiol. Er mai efe ydyw y buddugoliaethwr mwyaf a'r gwladgarwr penaf o bawb, eto y maeyn dechreu ci yrfa yn ddisylw, yn ei rhedeg yn ddystaw, ac yn ei gorphen yn dawel niewn tangnefedd. Nid parch a molawd ei gyd-ddynion ydyw ei ymgais at yr hwn y oyrcha; y maegauddo amgen dyben mewn golwg i gyfeirio ato, "sef y gamp uchel o alwedigaeih Duw yn Rghrist Iesu." Nid aifogaeth g-nawdol ydyw yr eiddo ef, acnid canmoliaeth gan ddynion ydyw y wobr a ddysgwylir ganddo ef; eithr y mae yn ym- orchestu pa un bynag ai gartref ai oddi- cartrcf, am fod yn gymmeradwy ganddo cf. Dyma wir gymmeriad gwrthddrychy cofìaut hwn. Ganwyd John Owen yn y flwyddyn 1753, yn Glanygors, plwyf Penymynydd. Nid ydym yn gwybod am natur yr addysgiadau a gafodd yn morcuddydd ei oes, na nemawr am ei ymddygiadau pan yn ieuanc. Yr 13 oedd ei rieni yn aelodau yn Rhosymeirch, a daethant i fyw i Cerrig-gwyddel, yn agos i'r fan lle mae capel Paradwysynbresennol. Yn eu tŷ hwy y bu pregethu gyntaf yn yr ardal yma, a chymdeithas grefyddol yn cael ei chynnal yn eu tŷ hwy. Wedi i John Owen dyfu i oedran gwr ymbriododd yn y flwyddyn 1777, a chafodd y fraint o gael cymhares bywyd gyffelyb iddo ei hun o ran tiriondeb a hynawsedd ei thymmerau. Dywedir am dano ei fod yn rhagori o ran mwynhad odangnefedd teulu- aidd \ a pharhaodd yr undebanwylafrhyng- ddynt hyd nes i angeu eu gwahanu. Bu hi farw yn yr Arglwydd, fel y mae sail dda i gredu, yn y flwyddyn 1831. Bu iddynt saith o blant, pump o honyut sydd yn awr yn fyw, y mae pedwar o honynt yn dal cysylltiad cyhoeddus ag achos Iesu Grist mewn gwahauol fanau. Yrr hyn a weith- redodd gyntaf ar ei feddwl i'w dueddu i ymofyn am grefydd, ydoedd sylwi ar ddi- wydrwydd a flyddlondeb uu IlughWilliams (ag oedd yu byw mewn lle a elwir Coleg Llangadwaladr) gyda chrefydd, yn dyfod oddiyno i gapel Paradwysmoramlachysou. Cafodd ei dderbyn yn aelod i Eglwys Crist yn Mharadwys tua'r flwyddyn 1786( pan oedd y Parchedig Benjamin Jones yn g-weinidogaethu yma, ymadawiad yr hwn i Bwllheli a fu yn achos o drallod mawr i'w fedclwl,—colli uu ag oedd efe yn garu mor fawr. Yn y flwyddyn 1807, cafodd ei ddewis gan yr eglwys i weinyddu swydd diacon, yr hon swydd a gyflawnodd gyda ffyddlondeb a diwydrwydd hyd ddiwedd ei oes; un Sabboth a gafodd ar y ddaear ar ol gweiui