Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 216.] TACHWEDD, 1839. [Cyf. XVIII. HANES XXIV O FRENHINOEDD FRYDEINAIDD. L/LYMA enwau y pedwar Brenin ar ugain o'r Prydeiniaid a farnwyd yn gadarnaf, ac yn wrolaf, yn oresgynwyr, ac i adeilad caerydd; a'r rhai hyn a wnaeth y tair caer ar ddeg ar ugain o brif gaerydd Ynys Pryd- ain Fawr, nid amgen eu henwau: Cyn Cred 1108. Brutus ab Sylus ab Yscanys ab Eneas Ysgwyddwyn, a wnaeth ddinas ar lan Tems* ac a'i galwishiTroeaf Newydd, ac a elwid wedi hyny Caer Ludd, ac a elwir heddyw Llundain. Efe a deym- asodd 24 o flynyddoedd. Cyn Cred 1009. Membyr, neu Mynyr, ab Madawc ab Corrainus ab Brytus, a fu frenin cadarn creulawn ar holl YnysPrydain: ac ef a wnaeth ddinas anrhydeddus ar lan Tems, yn y Ue y cäed canol yr ynys gwedi hyny, ac a'i gelwis hi o'i enw ef ei hun, Caer Feinbyr, ac a elwid gwedi hyny Caer Bosso, ac a elwir heddyw Rhydychen. Efe a deyrnasodd 20 o flynyddoedd. Cyn Cred 989. Efrog Gadarn fab Mem- byr ab Madawc a fu frenin cadarn ardderch- og; ac ef a wnaeth ddinas anrhydeddus ar lan Tyedd yn y gogledd, ac a'i gelwis hi o'i enw efei hun, Caer Efrog, ac a elwir heddy w yn Saesoneg, York. Efe a adeiladodd ddinas arall yr hon a elwir Caer Alclyd, a chastell yr hwn a elwirCastell y Morwynion ar Fynydd y Tristyd ; ac i'r Efrog hwn y bu 20 o feibion, a 30 o ferched, a'r rhai hyny aethant oll i Germania, ond un mab yr hwn a elwid Brutus Darian Lâs, a drigawdd yn cadw y deyrnas yn ol darfod i'w dad deyrnasu 60 o flynyddoedd. Cyn Cred 929. Brytus Darian Lâs ab Efrog Gadaru a fu frenin cyfiawn ar holl YnysPrydain; acefe a orphenoddadeiladu y ddinas a ddechreuodd ei dad ar Ian afon Alclyd yn y gogledd; yr hon a elwid y pryd hyny Caer Alclyd, ac a elwid gwedi hyny Castell y Morwynion, ac a elwir heddywyn Saesoneg Caer Lieil. Efe a deyrnasodd yn nghylch 13 o flynyddoedd. " Tems yw yr henw yn Llyfyr Hafod Uchdryd, o ba un yr argraffwyd'hwn; eithyr Tain raewn llyfrau ereill. 41 Cyn Cred 917. Lleon fab Brutus Darian Lâs,fab Efrog Gadarn, a fu frenin da moli- anus; ac ef a wnaeth ddinas ar lan Afou Dyfrdwy, ac a'i gelwis bi, o'i enw ef ei hun, Caer Lleon; ac felly y gelwir hi eto o Gymraeg; ac yn yr amser hwnw yr oeddid yn adeilad Caer Salem yn yr India Fawr- Efe a deyrnasodd 25 o flynyddoedd. Cyn Cred 892. Rhun Baladr Brâs ab Lleon ab Brytus Darian Lás a fu frenin cadarn creulawn, ac ef a wnaeth dair caer; nid amgen, Caer Gaint, Caer Wynt, aChaer Fynydd: Caer Gaint yw Canterbury, Caer Wynt yw Winchester, Caer Fynydd yw Excester. Efe a deyrnasodd 29 o flyn- yddoedd. Cyn Cred 853. Blaiddud ab Rhun ab Lleon a fu frenin mawr ei allu, ac fe a wnaeth ddinas ar lan afon Faddon, ac a wnaeth ennaint twym drwy gelfyddyd Igmars; ac ef a wnaeth adenydd iddo, acefe a hedawdd hyd yn Llundain, ac yno y tores ef i fwnwgl am na allai ddisgyn eisieu bod cyuffon iddo, lle mae yn awr glochdy Sant Pawl Abostoì. Efe a wladychodd 20 o flynyddoedd. Cyn Cred 834. Llur fab Blaiddud ab Rhun ab Lleon a fu frenin cadarn santaidd; ac efe a wnaeth ddinas ar lau afon Soram, ac a'i gelwis hi, o'i euw efeihun, Caer Lur, ac a elwir heddyw o Saesoneg Leicester; ac i hwnw y bu dair merch, ac ni bu iddo un mab; a merched Llur a fu fal y dywaid y byd am danynt. Efe a wladychodd 40 o flynyddoedd. Cyn Cred 441. Dyfnwal Moelmud fab Cludno larll Cernyw a fu frenin cadarn canmoledig; ahwnw a fesurodd hyd a Iled yr Ynys, ei mynyddoedd, a'i hafonydd, a'i fîbrestydd, a'i phrif aberoedd; acef a wnaeth ddinas ar lau afon Sabrina, ac a'i gelwis hi Caer Odor; cauys yr afon fechan afydd ya 'myned drwy y dref a elwir Odornant y Bàdd; a hi a elwir heddyw, o'r ddwy iaith, Brysto. Cyn Cred 401. Beli mab Dyfnwal Moel- mud a fu frentn ar holl Ynys Prydain, a Brân ei frawd a fu ymherodr yn Rhufain; a'r Belihwnw a wnaeth ddinas ar lan afou