366 CYFARFODYDD CREFYDDOL. yn oes o ymorwedd amo sydd o bwys? Er gwybod llai am natur a chadernid y sylfaen, ai tybed fod mwy o'n tadau, yn ol cu man- teision, wedi rhoddi goglnd eu henaid arni ? Betb, pan bydd ý Lircrpool Pac/ict yn cychwyn i'r America, pe byddai rbywun yn sefyll ar y Picr-head, yn rhoddi darluniad medrus o honi, ac yn annog pawb i fyned i'w bwrdd,—yn ysgrifenu Uyfr o hanes ei mordeithiau, yn ei darlunio yn nerth yr agerdd yn dringo yr anferth dònau a ym- ddyrchafent fel mynyddau mawrion ; rhyw un yn gofyn i'r gwr yma, A ymddiriedi di iddi dy hunan? Yna yntau yn plygu ei ben, ae yn dywedyd, ÎN'a, yn wir, mae arnaf ofn. Dynia un gair, yn cael ei wirio gan ymddygiad, a wnai fwy nagwrthbwyso ei holl eiriau a'i ysgrifau blaenorol er peri i'r wlad ammaa sicrwydd y llestr. A oes rhyw rai yn ymddwyn fel hyn tuag at aberth y groes ?! 3. Yr alwad sydd arnom i gyfodi at cin gwaith, gan ein bod yn ystyried goruchwyl- iaeth efengyl yn rhan o drefn iachawdwr- fëelh. Os gweithia y rhai sydd yn meddwl fod y fargen wedi ei tharo, y dyled wedi ei dalu, ac iachawdwriaeth y prynedisrian wedi ei gorphen ar Galfaria,—a gysgwn ni, syrìd yn barnu fod gan ddyn ei waith, ac y bydd y dyben heb ei ateb os na bydd iddo ei gyflawni? Nid oes genyfddim yn erbyn y gyf'indraith, ond fy mod yn ofni ein bod wedi dysgu ei siarad, ac nid ei gweithio. Mäe eisiau gweithio ein gweddíau, a gweddi'o ein pregethau. A ga y rhai sydd yn tybied fod yr Ysbryd Glan yn gweith- redu heb foddion, fod yn ffyddlonach gyda moddion, na ni sydd yn meddwl eu bod yn anhepgorol angenrheidiol ? A g-airî* y rhai y mae eu hathrawiaeth yn eu rhwyrno i ystyried dyledswyddau crefydd, moddion gras, yr ymdrechiadau cenhadol, &c. yn gellwair, fcd yn esiampl i ni sydd yn cym- meryd arncm ein bod yn eu hystyried mor bwypig? A ga ereill, yn ol eu hegwydd- orion sydd yn chwareu ffug, ragori arnom ni, y rhai yn ol ein hegwyddoiion, ydym yn chwareu y gwirionedd? Na! na! a diolch- wn fod arwyddion yn ein dyddiau fod y g-yfundraith yti cael ei gweithio i arfcriad. "Cerdd yn mlaen, nefol dân." Lîosga ar dy gyfer Fôn ac Arfon, Conwy, &c. &e. ac wrth g^ymmeryd Dyffryn Clwyd o'i g»Vr, paid anghofio St. Siûr a ?»ìoclifro. "Helactha le dy babell, ac estyuant le dy breswyWeydd: nac attal, estyn dy ratfau, a sicrha dy hoel- ion. Canys ti a dòri allan ar y llaw ddehau ac ar y llaw aswy. Deffro, defíro, gwisg dy nerth SYon ; gwisg wisgoedd dy ogoniant, santaidd ddinas lerusalem. Ymysgwyd o'r llwch, cyfod, eistedd, Ierusalem: ymddat- tod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Síon." 4. Y dylai y rhai sydd ÿn gwahaniaethu roewn barn fod yn hynod o ofalus i beidio gwneuthur dim fyddo a thuedd i oeri cariad eu gilydd, i iselhau cymmeriad y naill y llall, a thrwy hyny leihau ei defnyddioldeb. Gochelwn fyned i ymladd â'n gilydd, yn lle ymofyn am y gwir. Os felly, yr ydym yn colli ein dyben, a'r gelyn yn cael lle i gablu. Yr ydwyf yn ystyried yn anrhyd- edd myned gyda'r Fregethwr a'i frodyr i'r maes i ymladd brwydrau dirwest, a rhoddi ein hysgwyddau o dan yr achos cenhadol, a dymunwn farw gyda hwy yn yr ymgyrch. Ac nis gwn, gan fod yr ymosodiad wedi ei wneyd, pa niwaid fuasai cael maes y Drysorfa yn rhydd i ymladd brwydrau egwyddorion, mewn ysbryd cariad. Gan hiraethu am i'r amser ddyfod i ben " pan ddychwelo yr Arglwydd S't'on," ac yna "y gwylwyr a welant lygad yn llygad," y terfynaf yn bresennol. Llanbrwwiair. J. R. CYFARFODYDD CREFYDDOL. Penuerfyniadau i'w mabwysiadu gan Gristionogion mewn cyfarfodydd crefyddol. 1. Os nad ydyw y cyfarfodydd hyn yn feuditbiol, yfta y mae y cyfleusderau a'r moddion mwyaf gobeithiol er dychwelyd pechaduriaid yn caeleu colli, a hwythau yn myned yn fwy cyndyn a chaled o dan y gwirionedd, yr hwn bellach a ddylasai fod (pe iawnddefnyddiasidefgan Gristionogion) wedi efl'eithio arnynt, neseu dwyn i edifar- hau, a dyfod yn etifeddion iachawdwriaeth. Am hyny yr ydwyf yn penderfynu o flaen Duw i ochelyd pob pechod, neu unrhyw arferiad bechadurus, trwy ba un y bydd i ddefnyddioldeb y cyfarfodydd hyn gael cu hattal, ac i gyflawni pob dyledswydd sydd yn disgyn arnaf tuag at eu dygiad yn mlaen yn llwyddiannus. 2 Rhai cyfarfodydd nid ydynt yn cyraedd y fendith, am fod taeriueb, dyfalwch,a ffydd yn eisiau yn ein gweddíau. Am hyny yr ydwyf yn penderfynu gwedd'ío yn wastad ac heb ddiffygio, a chyflwyno fy ngweddi'au trwy ffydd a gostyngeiddrwydd.