Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYD Riiif. 14. Cyf. II. CHWEFROR, 1842. Cyfres Newydd. COFIANT WILLIAM HUGHES, MACHYNLLETH. Yn mysg Uafuriodd Mab ydocdd i Jolm ac Elizabeth Hughes, Maesglas, Machynlleth; ganwyd ef ar y 14eg o Fai, 1822; gwehydd oedd wrth ei alwedigaeth. ArgraíFwyd pethau crefyddol yn foreu ar ei feddwl gan Mr. Morgans, hen weinidog enwog yr eglwys hon, yr hwn fu gydag ymdrech mawr, a diwydrwydd dinin, yn bwrw ei fara ar wyneb y dyfroedd yn yr ardal- oedd yma, yr hwh a geir yn mhen llawer o ddyddiau yn dywysenau breision addfed, ac yn eu plith, gwrthddrych ein cofìant. y gwahanol gylchoedd y Mr. Morgans ynddynt mor ddifefl, bu yn ddefnyddiol iawn yn y society plant, llc y cafodd William Hughes Iawer o gynghorion buddiol ganddo. Dychwelwyd ef at grefydd o dan weinidogaeth INIr. Parry, y pryd hyny o Fachynlleth, ond yn awr o'r Wern; yr hwn a'i derbyniodd i fwynhad o gyflawn freintiau tý Dduw ar y 3ydd o Fehefin, 1838. 0 hyny hyd amser ci afiechyd gwnaeth y defnydd goreu o'i freint- iau. Yr oedd yn dra sychedig am wybodaeth: darllcnodd ei Fibl yn fynych gyda mawr ddifyrwch, a myfyriodd lawer ar wahanol bync- iau crefyddol. Traddododd amryw areithiau melus ar wahanol destun- au yn nghymdeithas y gwýr ieu- ainc, nad all amser eu dilëu o fedd- yliau ei gyfoedion. Yr oedd wedi ei "wisgo ag ymysgai'oedd trugar- edd, cymwy nasgarwch, gostyngeidd- rwydtì, addíwynder, ymaros, gan üyd-ddwyn â'i frodyr." Yr oedd February, 1842. ei weddiau yn afaelgar, ei g}'ngîior- ion yn fuddiol, a'i ymddyddanion yn rasol; adroddai ei brofiad yn y fath dduíl fcl ag i dueddu pawb a*i clywsent i gredu fod yr " hed}Tn ìnwstard" yn cynhyddu yn bren mawr. Blodeuodd mor brydferth, a pheraroglodd mor ddymunol, nes yr oeddym yn gobeithio yn hyderus y dygai fírwyth lawer yn nglyn gwylofain er gogoniant i Dduw; eithr "cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a'i flod- euyn a gwympodd, a thegwch ei bryd cí a gollodd;" gwywodd yma i ail-ymagor yn mharadwys. Dys- gwyliais y buasai yn oleuad dysglaer yn fturfafen yr cgiwys ; ond, "Y scren a dybiaia oedd scren y boreu, Ar nawn ei djagleirdfib a syrthiodd i lawr; Y dwyrain a wenai, y tynior tywynodd, A godre y cwmwl cadduglyd oreurodd ; Dysgwyliais am haul—ond y seren fachludodd, Cyn i mi weled ond cysgod y wawr." Cymerwyd "dymuniad ein llygaid ymaith à dyrnod." Ymaflodd y darfodedigaedi yn ei natur, ac aeth ei gystudd yn drymach drymach, nes llethu ei gyfansoddiad. Dyodd- efodd yn amyneddgar yn ngwyneb y cyfan, gan ddywedyd, "Gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Dywedodd wrth un o'i gyfeillion, "Na ddylai neb dristâu mewn afiechydosbyddai ganddo grefydd, am nad oes tuedd niewn crefydd i dristâu." Cawsom lawer o ymddyddanion cysurus, pan y byddwn yn ymweled ag ef, am ddaioni Duw, am degwcli Iesu, ac am werthfawrogrwydd trefn cadw,