Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 24. Cyf. II. RHAGFYR, 1842. Cyfres Newydd. COPIANT Y PARCH. CHARLES NICE DAVIES. (PAHHAD O'N HHIFYN DIWEDDAF.) "Yn nghynhauaf 1819, cyfarfydd- odd Mr. Davies â'r amgylchiad a brofodd yn ffynhonell o gymaint o ddyoddefaint a gwendid iddo yn ei flwyddi dyfodol. Helaethesid capel Milton, ac ar ei ail-agoriad, daeth llawer o gyfeillion yn nghyd o'r ardaloedd amgylchynol. Yn mhlith eraill yr oedd amrywiol foneddigesau o Chatham. Aethai y boneddigesau hyn i mewn i'w cer- bydau i ddychwelyd, ond drwy ryw esgeulusdra, neu gamdrefn, carlam- odd y ceffylau ymaith ar hyd gori- waered, cyn i'r gyriedydd allu cael gafael arnynt er mwyn esgyn. Yr oedd Mr. Davies yn dyfod i fyny yr allt, ac yn gweled fod y gyried- ydd yn analluog i gyrhaedd y ceff- ylau, efe a benderfynodd wneuthur ymdrech i waredu ei gyfeillion o'u sefyllfa beryglus. Safodd ar ganol y ffbrdd yn gymhwys o flaen y ceffylau, a chymerodd afael yn eu penau gyda'r fath rym ag i'w harafu, ac mewn ychydig eiliadau i'w hollol lonyddu. Ei wroldeb a'i gryfder a achubodd ei gyfeillion, y rhai oedd- ynt mewn perygl o gael eu chwyrn- daflu i ddwfr dwfn yn ngodre yr allt. Ni theimlodd un anghyfleus- dra o bwys ar yr amser hwn. An- ystwythder yn y cefn am ychydig ddyddiau oedd yr holl niwed ym- ddangosiadol; ond y mae Ue cryf i famu i'r ddamwain niweidio yr asgwrn cefn, a gosod i lawr sylfaen y dyoddefiadau llymion hyny, a ddechreuasant yn mhen deg neu ddeuddeg mlynedd, ac a barhasant Decembeb, 1842. drwy ei fywyd vn boenmawr iddo. " Yn mis Medi, 1820, dechreu- odd Mr. Davies ohebu â'r Congre- gatìonal Magazine, dan ei enw priodol. Ei gyfraniadau cyntaf oedd- ynt ddarnau o hysbysrwydd llen- yddol a hanesiol. Ei ffugenw ar ol hyn oedd Miles, o dan ba un yr ymddangosodd llawer o'i gyfan- soddiadau o'r flwyddyn 1821 allan. Argrafíwyd llawer o'i bapyrau yn y Literaria Rediviva heb enw wrthynt, ond gellir nodi i'w gyf- eillion un erthygl difyr ar 'Embryo Literature,' dan yr enw ' Horn- boohius.' Ei gyfraniadau eraill ydynt ry luosog i'w nodi. Dros ystod dwy flwydd ar hugain bu yn ohebwr fíÿddlon iddo. "Dechreuodd bregethu yn rheol- aidd yn y pentrefydd o amgylch Uxbridge, ac ymosododd ar ddysgu y grammadeg Lladin. Dysgasai ryw ychydig o Lìadin a Groeg heb rammadegau. Ei ddiffyg amynedd ar y dechreu a'i harweiniodd i ysgoi y budrwaith o ddysgu allan reolau a ffurfiau yr ieithoedd hyn. Pen- derfynodd unwaith adael y gorch- wyl heibio, a chydag anhawsder y darbwyllwyd ef i fyned yn mlaen. Wedi ei argyhoeddi nad oedd un fynedfa at yr ieithoedd awdurol ond ar lryd fíbrdd sech a sychlyd rheol- au grammadegol, gwnaeth ymdrech egn'iol, ac mewn amser anghredad- wy o fýr meistrolodd egwyddorion y Lladin a'r Groeg. O'r amser hwn yr ydoedd ei gynnydd yn nod- edig gyflym. Yr oedd ei ymrodd- 45