Symud i'r prif gynnwys

T&mwi HANESION CREFYDDOL, Ctamor» CYNNADLEDD GENADOL YN CALCUTTA. Gyda hyfrydwch neillduol yr ydym yn cyhoeddi fod yn Medi diweddaf ddim llai na deg a deugain o genadon, yn cynnrych- ioli yr amrywiol genadaethau efengylaidd sydd yn llafurio yn Bengal, yn cynnwys Eglwysi Lloegr, yr Alban—y Wladol a'r Rydd, y Bedyddwyr, a'r Annibynwyr, wedi ymgynnull yn Calcutta, i'r dyben o amlygu y naill i'r llall eu syniad a'u teimlad unol gyda golwg ar y gwaith tra phwysig • i'r hwn y maent wedi cysegru eu galluoedd, sef dychweliad y paganiaid i fFydd Crist. Ertiriad y cenadon Protestanaidd cyntaf ar draethau India, ryw driugain mlynedd a aethant heibio, ni amlygwyd y fath nerth byddinol, wedi ei gysylltu â'r fath undeb hollol mewn amcan a gweithrediad. Y mae y cyhoeddwyr yn sylwi ei fod yn hyf- ryd i ystyricd na wnaed cymaint ag un cyfciriad at bethau neillduol amryw ddos- barth o'r eglwys, drwy holl gyfarfodydd y Gynnadledd, a'i duedd i gynhyrfu unrhyw dcimlad heblaw hwnw o gariad brawdol. Yr ysbryd yn yr hwn yr oedd y brodyr wedi ymgynnull oedd yn amlwg fel hyn, " Un yw ein hathraw ni, sef Crist; a ninnau oll brodyr ydym:" a phenderfyniad pawb oedd yr un a'r apostol, Na atto Duw i ni wybod dim yn mhlith dynion, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Yn y rhestr o gyfarfodydd dros amryw ddyddiau o barhad y Gynnadledd, ymdriniwyd ag amrywiol bethau tra dyddorol yn dwyn perthynas â llwyddiant y cenadaethau; a mabwysiad- wyd amryw gynlluniau a mesurau er lled- aeniad yr efengyl drwy India mewn modd effeithiol a chyflym, yn yr ysbryd mwyaf unol a chydweithredol, ac nis gallwn ni lai nac anwesu y dysgwyliad brwdfrydig y bydd i'r Gynnadledd gael ei dilyn â bendith fawr o'r uchelder. Yr ydym hefyd wedi ein hysbysu er llawer o foddlonrwydd drwy lythyr oddiwrth Mr. Buyers o Benares, focl cynnulliad cyffelyb o genadon y gwahanol enwadau ag sydd yn llafurio yn y taleithiau gogleddol i gymeryd lle yn fuan. MARWOLAETH Y PARCH JOHN DAVIES, TAHITI. Y mae y gwas hybarch hwn i Dduw, yr hwn a lafuriodd am fwy na hanner cant o flynyddau yn mysg Ynysoedd y Môr Tawelog, ac yn benaf yn Tahiti, o'r diwedd wedi ei alw i'w orphwysfa ac at ei wobr. Un o'n cenedl ni, y Cymry, oedd Mr. D. o swydd Drefaldwyn. Byddai y diweddar Barch. J. Hughes, Pontrobert, ac yntau, yn dal cyfrinach â'u gilydd drwy Iythyrau, ond yn awr y maent wedi cyfarfod yn myd yr ysbrydoedd, Ile cânt gyfeillachu yn ddi- rwystr yn oes oesoedd. Pan y tiriodd Mr. D. gyntaf yn Tahiti, yn y flwyddyn 1801, cafodd yr ynys wedi soddi mewn barbar- iaeth aceulunaddoliaeth; ond drwyfendith Duw ar ei lafur ef a'i gydlafurwyr boreuol, darfu am yr eulunod, ac ennillwyd y trig- olion i gofleidio y flydd Gristionogol. Er fod blynyddau diweddaf y cenadwr ffydd- lon hwn wedi eu chwerwi yn fawr gan drallodau gwladol a ddygwyddasant i'r ynys, etto parhaodd ef drwy lawer o wasg- feuon a gwendid i ddwyn ei dystiolaeth i'r gwirionedd hyd angeu. Wrth hysbysu yr amgylchiad difrifol, sylwa Mr. Howe fel y canlyn:—" Mae genyf o'r diwedd eich hys- bysu am farwolaeth ein brawd hybarch y Parch. John Davies o Papara, yr hyn a gymerodd le am ddau o'r gloch, bore Sab- bath y 19eg o Awst. Parhaodd i bregethu unwaith y dydd hyd y Sabbath blaenorol. Yr hwyr cyn ei farwolaeth, aníbnodd am danaf, ond ni bu y gcnad fwy nag awr ar y fforcîd, nad oedd ei ysbryd wedi gadael ei babell ddaearol, yr honoedd wedi ei gwisgo allan i dreulio ei Sabbath cyntaf yn y nef- oedd. Yr oedd ei ymadawiad yn dra esmwyth, yn gymaint felly fel nad ocdd y rhai oedd o'i amgylch am beth amser yn gallu bod yn sicr o'i fynediad. Yr efengyl, yr hon oedd Mr. Davies wcdi ei chyhoeddi drwy amrywiol foddion yn Tahiti a'r ynys- oedd cymydogaethol, oedd unig gynnal» iaeth ei enaid yn yr olwg ar y byd tra- gwyddol. Yn wir yn fy holl ymweliadau ag ef, nis gallaf adgofio iddo un amser ddangos ammheuaeth gyda golwg ar effeithioldeb hon, na'i hawl bersonol ynddi. Yr oedd efe yn y bummed flwyddyn a phedwar ugain o'i oedran." MARWOLAETH TYWYSOG IEUANC TAHITI. Y mae brenhines hir-brofedigaethus Tahiti wedi ei galw drachefn i brofi ansefydlog- rwydd pob da daearol, yn marwolaeth ei mab hynaf, ac etifedd y peth cyffelyb i awdurdod, ag y mae llywodraeth Ffrainc wcdi ei adael iddi. Yr oedd y Parch. W.