Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RHAOOROLION Y DDAEAR. 53 ' Yn llon o'i flaen, er bod yn mhell, I uuo mcwn addoliad gwell." Ac, ar y dôn " Concert,"— •* Braint byfryd yw cael cwrdd ft Duw Yn mhlith y byw ar lawr, Pan elwy' dre' i'r byfryd le, Ca'i gwmni ef bob awr." Ac, ar yr hen dôn nefolaidd "Wyndham,"— *' Cyf'rwydda 'nhraed i'r ffordd y sydd Yn arwain i'r llawenydd fry; Gwybodaeth yno o hyd amlha, A chariad oeri byth ni wna." A llawer eraill rhy faith i'w henwi; oblegid pallai amynedd y darllenydd. Mary Grif- fiths, wedi hyny Mrs. Martin, ni adawai i "fiaenor y gân i seinio un sillaf ond un," cyn peri clywed ei llais fel y delyn soniarus yn y treble., gydag eraill o'i chwiorydd, gan gydgordio yn berffaith â'r tenor a'r bass, nes y gellid dweyd, "Mae'n nefoedd yma'n awr." Ond heddyw, "y fywiol fflam nefolaidd gu," sef enaid perffeithiedig ein chwaer ymadawedig, a geincia "nefol odlau" yn uwch ei "chân a gwell ei thòn" nag y gwnaeth erioed ar y ddaear hon. Fel Bethel i Jacob—tir yr Iorddonen, yr Hermoniaid, a Bryn Misar i Dafydd, ydy w Rhodiad i lawer nad ydyw eu rhan ar hyn o bryd i gynniwair yno fel cynt,— "I gwrdd ft Duw Yn mysg y byw ar lawr." Dychwelwn i Lanferan. Yn y dyddiau gynt, bu yno ddynion cyfrifol yn byw o'r enw Mr. a Mrs. Phillips, i'r rhai y ganed unig ferch ac etifeddes. Galwasant ei henw yn Sarah, mcgys pe byddent dan ysbrydoliaeth; canyso"honi hi" y daeth llawer a wnaed, ac eraill a wneir, yn frenhinoedd ac offeiriaid i Dduw a'i Dadef. Cysegrodd y Sarah hòno "flaenffrwyth dyddiau'i hoes i garu'r Gwr fu ar y groes." Ymunodd yn gyhoeddus pan yn dra ieuanc â'r hen Eglwys Annibynol yn Rhodiad, er nad oedd neb o'i pherthynasau yn ol y cnawd, nac o'i gradd o ran cyfoeth a dysg, yn dal perthynas â'r achos yn y lle hwnw ar y pryd. Yn wir, yn ol yr hanes a gefais gan yr hen bobl, "yr oedd pen yr achos yn isel." Yr hyn, yn ol ei thystiolaeth ei hun, a drodd y glorian yn ei meddwl i fwrw ei choelbren yn mysg y plant yno ydoedd, y gaUasai fod o fwy o ddefnydd yno nag yn un man arall, ar gyfrif iselder yr achos yn y lle ar y pryd. Yr oedd hyn yn ganmol- adwy, ac y mae yn wers bwysig i'r rhai sydd yn ffaelu byw heb rywfath o grefyddf ond a chwiliant am y lle y gelwir lleiaf am eu cymhorth i gario y gwaith yn mlaen. Yn fuan ar ol hyn, cyfeiriodd rhaglun- iaeth ddoeth y nef gamrau y Parch. J. Griffiths, y pryd hwnw o Fachynlletb, tua Thyddewi, pryd y gwelodd Miss Phillips o Lanferan. Dewisasant eu gilydd, ac ym- unasant mewn priodas yn y flwyddyn 1811. Dywedwyd wrthyf lawer gwaith gan lawer* oedd fod Mrs. Griffiths yn ddynes o gyn- neddfau cryfion, wedi cael manteision dysgeidiaeth da, yn feddiannol ar deimlad- au mwyn a thyner, ac yn ei holl ymddyg- iad yn arwyddo gradd uchel iawn o dduw- ioldeb. Bu farw yn 35 mlwydd oed, gan adael priod ei hieuenctyd ac wyth o blant bach i alaru ar ei hol, pan nad oedd yr hynaf, sef y Parch. Henry Griffiths, Liver- pool, ond 13 oed. Nis gwn am blant a. fagwyd mor grefyddol oll. Yr oeddynt yn rhwym wrth ewyllys y tad fel y gronynau wrth ddeddf yr ad-dyniad; ac etto, fel y ddeddf hòno, nid oedd yn cadw dim swn. Rhoddwn enghraifft:— " Nhad, o chi, cai fyn'd i'r------heddy w ?" "Beth wyt ti yn feddwl, Davi' bach, ai dyna sydd oreu ?" " Gofyn i chi wy' nhad." "Wel, 'rwyt ti yn fachgen call, bafna drosot dy hun." "Wel, 'nhad, 'wy'n gwel'd 'di chi ddim yn foddlon." "Wel, wyt ti yr un farn a fi?" "Wel, chi wyr oreu sound." "Wel, da iawn dy fod ya credu fod rhywrai yn gwybod cymaint a tithau." Yn y modd yna, yn yr agwedd mwyaf sirio), y byddent yn penderfynu pethau. Ond enw eu mam hwynt ydoedd Sarab* Wrth ddarlunio cymeriadau yn yr Hen Destament, ceir enw y fam, a hyny i'r dyben i ddangos gwirionedd y Äywediad, " Those that rock the cradle rule the world." Llawer gwaith y clywais Mr. Griffiths yn dweyd, er mor fore y cymerwyd y fam ymaith, mai ei dylanwad hi oedd yn aros ar y plant. Yn awr y mae y rhîeni a phedwar o'r plant yn y nef, a'r pedwár arall yn yr eglwys isod, mewn cylchoedd defnyddiol, ac yn gysurus dymmorol Mary ydoedd y pummed plentyn, a*r drydedd ferch. Ganed hi yn y fiwyddjn