Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

3GrE Rhif. 221.] MAI, 1840. [Cyf. XIX. MARWOLAETH SARAH J O N E S , R II I W A B O N . Sarah Jones ydoedd ferch i Richard a Sarah Jones, o'r Green, ger Rhiwabon. Wedi hir nychdod a methiant, ymadaw- odd à'r fiichedd hon ar y 30aino Mehefin, yn 41, ac ehedodd ei rhan anfarwol i fyd yr ysbrydoedd, gan adael tystiolaeth dda arei hol. Claddwyd ei chorff gwanol ac edwinol yn nghladdfa yplwyfar yr 2fed o Gor- phenaf, pryd y pregethodd y brawd Ricliard Davies, o Riwabon, i dorf luosog o bobl ar yrachlysur. Gadawodd, i alaru ar ei hol, ei phriod anwyl (Edward Jones, yr hwn sydd ddiacon yn eglwys Rhosymedre), a chwech o blant, y rhai oeddynt oll yn byw gartref gyda'u tad a'u mam, ond yr hynaf yr hwn a briodwyd yn ddiWeddar. Teithiodd ein chwaer lwybrau dyrys yr anialwch am 41 o flyn- yddoedd, sef un flwyddyn yn hwy nag y bu plant Israel yn anialwch Seinai. Yna croesodd yr hen Iorddonen i direi gwlad, a bloeddiodd fuddugoliaeth yn ymchwydd tònau yr afon. Newidiodd y byd hwn am y nefoedd, yr anialwch am diroedd hyfryd Canaan. Rhoddwyd y cleddyf o'i llaw, a gwisgodd y palmwydd ; rhoddodd y groes i lawr, a gwisgodd y goron; peid- iodd a wylo, a hwyliodd ei thelyn; rhodd- odd heibio y galaru, a dechreuodd adseinio anthemau y nef, ie, aeth o'r eglwys filwriaethus i'r eglwys orfoleddus. Bu ein chwaer farw—nid syrthio i lewyg a wnaeth hi, " Ond mario a wnaeth." Nid rhyw un arall a fu farw, " ond marw a wnaeth hi" ac nid ammheüus genym y ffaith hon, "oblegyd marw a wnacth hi." Gen. 35. 18. Ai gwir yw y newydd fod Sarah Jones wedi marw? A gafodd hi ergyd marwol gan angau ? Ac a syrth- iodd hi i'r pridd, ac i ystafelloedd oerion y bedd? Dychymygaf y clywaf fil o leis- May, 1840.] iau yn dwyn y newydd galarus i'm clust- iau, ac yn unfrydol yn dweyd, Do, hi a fu farw. " Marw a wnaeth hi," medd ei chymydogion ; marw a wnaeth hi, medd ei phriod galarus; marw a wnaeth hi, medd y tŷ y bu ynddo yn byw; marw a wnaeth hi, medd y dillad a wisgai; marw a wnaeth hi, medd y gwely yr anadlodd ei hanadl olaf arno; marw a wnaeth hi, medd y bedd lle yr huna ynddo; marw a wnaeth hi, medd eglwys Rhosymedre; rnarw a wnaeth hi, medd Duw ei hun; a marw a wnaeth hi, medd angelion nef. "OBLEGYD MARW A WNAETH HI," 1. Yn eglwys Dduw. Pihoddodd yr Arglwydd i'n chwacr yn ei " dý, ac o fewn ei iagwyrydd, le, ac enw gwell na meibion ac na merched," &c. Bu yn aelod hardd a deihyddiol o eglwys Dduw am flynyddau,abu ynaddurn i'w phroffes tra yr arosodd yn ein byd ni. Mae llawer yn ngwlad freintfawr efengyl heb fod erioed yn proffesu Mab Duw! " Cywil- ydd pobloedd yw eu pechod." Mae eraill yn ìnarw yn wrthgilwyr; wedi bod unwaith yn aelodau o gymdeithas ysainí, ftc yna ei gadael. Wrthgilwyr, " Pa fodd yr ymdarewch yn nydd yr ymweliad?" Ac y mae y rhan arall o'r byd cref- yddol yn marw yn eglwys Dduw : ac yn y tŷ y bu ein chwaer farw. Ni thròodd allan wedi dyfod i mewn, ond arosodd yno hyd angau. Peth arswydus ydyw marw allan o dŷ Dduw. " Os o braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ym- ddengys yr annuwiol a'r pechadur ?" 2. Yn nghanol ei defnyddioldeb. Ca llawer eu gadael yn y byd nes y maent gan henaint yn methu gweithio, ond nid felly hon. Bu hi farw yn nghanol ei dyddiau, pan yr oedd haul ei bywyd ar 17