Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYBD. RniF. 223.] GORPHENAF, 1840. [Cyf. XIX. YR HEN WEINIDOGAETH: SEF IURUTH AR FYCHANDRA LIWYDDIANT PRECETHIAD PRESENOT, YR EFENGYI. JTEWN CYMHARIAETH I LWYDDIANT EI PHREGETHIAD GAN YIÌ APOSTOI.ION. GAN N. SYDNEY SMITH BEMAN, A. D. CSOL DALEITIIIAU, AMEIHCA. WEDI EI GYFIEITHU G A N E. E V A N S, ABERHAW • Mor gadarn y rynnyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd."----Actaü xix. 20. Wrth agor y Testament Newydd, un o'r pethau cyntaf a dýn ein sylw yw y llwydd- iant rhyíeddol oedd yn dilyn pregethiad yr efengyi yn yr amserau gynt. Mae hyn yn wirionedd nodedig am y rhan hòno o'r hanesiaeth Gristionogol a geir yn " Ngweithredoedd yr Apostolion." Yr oedd yr oruchwyliaeth newydd y pryd hwn wedi ei dwyn ì mewn yn gyflawn. Y deuddeg dysgybl etholedig, wedi eu dysgu yn drwyadl yn nybenion eu oen- hadaeth ddyfodol, a dderbyniasant y cymhwysder olaf i'w gwaith, pan y caws- ant eu " bedyddio â'r Ysbryd Glan." Gan ddwyn commixiwn Mab Duw, dan dywys- ìad ei Ddwyfol Ysbryd, dechreuasant ar ymdrechiadau rheolaidd a grymus er goleuo ac achub y byd. Ac ni lafuriasant yn ofer. Ar ddydd y Pentecost achubwyd a chwanegwyd at. yr eglwys dair mil o eneidiau. Bron ar y ddalen nesaf o hanes jt ymdrechfa Grist- ionogol gwelir y ffaith gysurus i " lawer o'rrhai aglywsant y gair gredu, a rhifedi y gwýr a wnaed yn nghylch pum mil." A thrachefn, " Gair yr Arglwydd a gyn- nyddodd; a rhifedi y dysgyblion a aml- hasant yn ddirfawr yn Ierusalem; a llawer o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd." Cawn hanes hefyd yn y cyndes- tynau am effeithiau achubol yr efengyl " Ni cheisiais ymgadw at g>fieithiad rhy lyth- yronol, ond at ddull ìhwydd ac iaith ddeafladwy i'r werin, gan adacl heibio ychydig frawddegau yma a thraw, y Thai a fernai9 y gallesid eu hebgor Ìiob wneyd dim cam fi'r awdwr parcliedig.—-Cyf. JüLY, 1840.] yn Ephesus. Achoeodd ymgais i gyf- lawni gwyrth *'yn enw'r Arglwydd Iesu" ganlyniad pwysicach o buasai bosibl na gwyrth ei hunan. "Ac ofn a ddaeth ar bawb, ac enw'r Arglwydd Iesu a fawryg- wyd. A llawer o'r rhai a gredasant a ddaethant ac a fynegasant eu gweithred- oedd. Llawer hefyd o'r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith a ddygasant eu llyfrau yn nghyd, ac a'u llosgasant yn ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'u cawsant yn ddeng mil a deugain o ddarnau arian. Morgadaru y cynnyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryf haodd." Gallesid chwanegu lluaws o ffeithiau o'r natur yma, ond nid oeà angen am hyny. Nis gellìr gwadu y dystiolaeth fod yr efengyl wedi ei gwisgo â nerth nodedig yn y dyddiau hyny; bod effeithiau cadwedigol yn dìlyn ei phre- gethiad gan yr apostolìon, nas gwelwyd eu cyffelyb mewn un oes arall. O fewn ysbaid triugain neu ddeg a thriugain o flynyddoedd, sef oddydd y Pentecosthyd farwolaeth yr anwylyd Ioau, yr oedd yr efengyl wedi ei phregethu yn y dinasoedd a'r taleithiau enwocafyn yr Ymerodraeth Rufeinig. Eglwysi mawrion a blodeuog oeddynt wedi eu planu yn Ierusalem, Antiochia, Ephesus, Corinth, a Rhufaiu. Yn wir yr oedd buddugöliaethau'r efengyl yn yr amser boreuol hwn bron mor ëang â llywodraeth y Cesariaid. Dylai hyn gan hyny effeithio yn ddwfn ar feddwl yr eglwys. Yma y gwelwn yr efengyl yn myylaw yehydig ddynion, ar fyr o amscr,