Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵtójnẁaîL ANERCHIAD A DBADDODWTD l'R MtFTRWTR TN ATHROFA TR AnNIBTNWTR TN T BALA, Mawrth 23, 1864. Gan W. BEES, X>iverpool, Anwyl Frodyr Ieuainc,—Ar gais pwyllgor y sefydliad hwn yr wyf yn sefyll yma heddyw i'ch anerch ar fyr eiriau. Carwn yn fawr allu o honof gyflwyno ychydig ystyriaethau at eich meddyliau a fyddent o ryw wasanaeth a buddioldeb i chwi, felrhai sydd yn rhagymbarotoi i ymgymeryd â'r swydd uwchaf a phwysicaf yr ymaflodd creadur ynddi erioed. Hyderaf eich bod oll wedi meddwl ac ystyried mawredd a phwysigrwydd ofnadwy swydd a gwaith y weinidogaeth, cyn cynnyg gosod erioed eich llaw arei haradr hi, a bod yr ystyriaeth a'r teimlad o hyny yn dwysâu ac yn dwfnhau yn eich meddyliau yn barhaus, a'ch bod o hyd yn cadw golwg ar y cymhwysderau angenrheidiol tuag at lenwi a chyflawni y swydd yn deilwng. Nid oes dan y nefoedd gymeriad mor wir urddasol a'r eiddo "gweinidog cymhwys i'r Testament Newydd." Er na edrychir arno felly ond gan ychydig fe ddichon yn awr, fe'i cydnabyddir felly gan bawb yn nydd datguddiad Iesu Grist. Nid fy amcan (pe gallwn) ydyw dywedyd dim newydd i chwi, dim nad oeddych yn ei wybod yn hysbys o'r blaen. Daethoch yma i ddysgu, gan eich athrawon, bethau nad oeddych yn eu gwybod yn flaenorol, a'u gwaith hwy ydyw eich addysgu ynddynt: ond yr hyn a ewyllysiwn i ei wneud yw, "cyffroi eich meddwl puraidd trwy ddwyn ar gof i chwi" rai pethau a ddy- wed yr ysgrythyr a ddaliant berthynas uniongyrchol â chwi fel gwýr ieuainc yn ymbarotoi at waith y weinidogaeth. " Yr holl ysgrythyr," (medd Paul wrth Timotheus ieuanc), "sydd wedi ei rhoddi trwy ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argy- hoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfíawnder, fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda." Nid dyn Duw fel cre- adur a oíygir yma. Y mae yn wir am bob dyn yn ddiwahaniaeth mai dyn Duw—creadur—eiddo Duw, ydyw, pa le bynag y byddo, a pha gyflwr bynag y mae ynddo: ni all ei bechod a'i wrthryfel byth dòri ei berthynas hon â Duw, na gwanhau hawliau y Creawdwr ar y creadur. Nid dyn üuw fel creadur newydd yn Nghrist Iesu chwaith yn unig a olygir, er fod hyny yn cael ei gynnwys o angenrheidrwydd yn yr ymadrodd. Ónd, yn benaf, dyn Duro mewn swydd; yn gweinyddu yn gyhoeddus dros Dduw,— wedi ei godi, ei ddonio, ei gymhwyso, a'i anfon gan Dduw yn genadwr at ddynion. Nid yw pob dyn Duw, sydd yn waith ei ras a'i Ysbryd wedi ei grëu o newydd, yn cael ei alw a'i gymhwyso i fod yn ddyn Duw yn swydd pregethwr a gweinidog yr efengyl. Nid yw Pen mawr yr eglwys yn cyf- ranu doniau y weinidogaeth i bawb o'r rhai y mae efe yn cyfranu doniau bywyd tragwyddol iddynt. " I bob un o honona y rhodded gras yn ol raesur dawn Crist." Y mae efe yo cymhwyso ac yn cyflëu yr aelodau yn ei gorff, MeHBFIN, 1864. 2 0