Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R AOTIBYtfWE, Y Mae yn hysbys i gyfeillion y Dysoedydd a'r Annibynwr yn mhob man erbyn hyn, a chredwn eu bod oll yn llawen o'r ffaith, bod ammod priodas wedi ei gwneud rhwng y ddau Gyhoeddiad, yn Nghroesoswallt, ar y4ydd o Hydreí' diweddaf, a hyny trwy berffaith fodd ac ewyllys dao'r ddwy ochr. Dydd eu priodas fydd Calan, Ionawr, 1865, fel o hyny allan ni byddant mwyach yn ddau, ondyn un cnawd. Bydd y personau oeddyntyn ymddiried- olwyr i'r naill a'r llall pan ar wahan, yn cydymgymeryd âg ymddiriedolaeth y pâr priodasol. Daw y Cyhoeddiad allan dan yr enw y Dysoedydd a'r Annibynwr, am y pris isel o bedair ceiniog, i gynnwys yn agos gymaint a chynnwysiad presenol y Dysgedydd am chwecheiniog, yn yr hyder y lluosoga nifer y derbynwyr i'r graddau angenrheidiol er galíuogi gwneud hyny yn ddigolled. Cydymrwyma ei Olygwyr i wneud pob un ei ran i borthi tudalenau y Cyhoeddiad à digonedd o ymborth llenyddol iachus, a buddiol, a gofelir am ddigon o amrywiaeth ar gyfer pob chwaeth, ond y chwaeth afiach, isel, gynhenllyd, ac ymrysongar: rbaid i hòno droi i faes arall, gan yr ymdrechir cadw allan o'r Cyhoeddiad hwn bob seigiau o'r fath ag a gâr hi. Amcenir, gan mai Cyhoeddiad pcrthynol i'r enwad Annibynol yn Nghymru ydyw ein Cyhoeddiad, ei wneud yn bob peth a ellir er gwasanaeth i'r enwad, drwy egluro ac amddiffyn ei egwyddorion, fel y byddo achosion yn galw; a rhoddi hanes symudiadau yr enwad yn Nghymru a Lloegr, a'r byd. Ond er y bydd felly yn parhau i fod yn Gyhoeddiad enwadol, ni bydd ei ysbryd a'i dôn yn ddallbleidiol a rhagfarnllyd. Ni wregysa ei gleddyf i fyned allan i ryfel yn erbyn enwadau efengylaidd eraill. Hyderwn y gwel ac y teimla y darllenydd y bydd efe yn fwy o Gristion ac efengylwr, nac o Annibynwr: ac yn wir, ni all fod yn Annibynwr cyson heb ei fod felly; canys dengys hanes yr enwad ddarfòd iddo bob amser roddi y Ile blaenaf a'r pwys mwyaf i ac ar wirioneddau sylfaenol Cristionogaeth, y gwirioneddau hyny a gredir yn ddiammheu gan bob plaid efengylaidd o Gristionogion, a gadael y lle nesaf i'r egwyddorion neillduol a gredir yr nn mor ddiammheuol gan yr enwad ei hun, yn mherthynas i ffurrìywodraeth a threfn eglwys Crist: gan fagu ysbryd rhyddfrydig a chariadlawn tuag at bob enwad o Gristionogion efengylaidd yn ddiwahaniaeth. Appèlir yn wresog at ein heglwysi a'n cynnulleidfaoedd, yn Ngogledd a Deheudir Cymru, ain eu cefnogacth, drwy dderbyn y Cyhoeddiad. Y inae hyfder ein hymadrodd yn fawr wrthych, gyfeillion, yn y peth hwn. Eich Cyhoeddiad chwi ydyw. Nid er mwyn nac enw nac elw iddynt eu hunain yr ymdraffertha ei Olygwyr gydag ef, ond er eich mwyn chwi—er mwyn eich adeiladaeth yn yr egwyddorion yr ydych yn proffesu eich bod yn eu credu, ac yn eu caru: a'r holl elw oddiwrtho, wedi talu ei dreulion angenrheidiol, caiff ei gyflwyno er cynnorthwyo hen weinidogion methiantus. Beiddiwn ddywedyd na bydd o un anrhydedd i Annibyniaeth yn Nghymra os na rifa ei Chyhoeddiad misol ei dderbynwyr yn chwe' mil, beth bynag, yn y flwyddyn ddyfodol. Y mae misolion rlíai o'r enwadau eraill, o leiaf Rhagfib, 1864, . s'~ 3K