Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD oyda'h iiwn t mae "yr annibynwr" wedi ei uno. DEDDF AC AISTALLU, Tëimlwn yn rhwymedig arnom i hysbysu i'r darlJenydd na wiw iddo ddysgwy) ein gweled yn tramwy llwybr dyeithr yn yr ysgrif hon, Bwr- iadwn deilliio flfbrdd sathredig, ac ymfoddlonwn ar adgoffa hen faterion, a thynu sylw atynt. O gylch deugain mlynedd yn ol, yr oedd y pynciau hyn yn dra chynnefin yn y Dysohdydd, ac yn yr areithfaoedd. Nid ydym yn meddwl fod gormod o drafod wedi bod arnynt y blynyddau hyny; ond ofnwn yn fawr fod llawer rhy fach wedi bod yn y híynyddau diweddaf. Dichon na bydd rhyw lawer o drefn ar ein hysgrif: dodwn ein syniadau fel y dygwyddont ddyfod i'n meddwl. Y mae o bwys mawr i ni ffurfio golygiadau cywir ar natur ein rhwymed- igaeth foesol i'n Llywydd goruchel: arweinia camsyniadau ni i gyfeiliornad mewn barn a buchedd. Y mater cyntaf a drinir ydyw y ddeddf, sef y DDEDDF FOESOL. Y mae y ddeddf foesol wedi tarddu oddiar berthynas. Tarddodd o angenrheidrwydd natur pethau—oddiar y berthynas rhwng Duw fel Crëwr, a dyn fel ereadur; Duwfel Llywydd, a dyn fel deiliad. Tarddodddeddfau pendant oddiar ewyllys penarglwyddiaethol Duw yn gwbl: nid oedd rhwymau ar ddyn i roddi ufudd-dod iddynt hyd nes cael amlygiad o hon- ynt. Nid oedd rhwymau ar Adda i ochel bwyta o ffrwyth y pren hyd nes uldo gael y gwaharddiad; ond wedi iddo gael y gwaharddiad, yr oedd y ddcddf foesol yn ei rwymo i gydffurfio. Deddf bendant oedd y gorchymyn i Abraham aberthu ei anwyl fab Isaac: nid oedd dyled arno i wneuthur hyny hyd nes iddo gael y gorchymyn. Wedi iddo gael y gorchymyn, yr oedd y ddeddf foesol yn ei rwymo i ufuddhau. Pendant i gyd oedd y deddfau seremoniol: ond wediiddynt gael eu gosod trwy awdurdod ddwyfol, yr oedd y ddeddf foesol yn rhwymo y genedl i nfudd-dod. Yr oedd y naill yn tarddu oddiar ewyllys Duw yn gwbl, a'r llall oddiar angenrheid- rwydd natur pethau. Y fynyd y cafodd dyn ei fodolaeth, y fynyd hòno yr oedd dan ddeddf: yr oedd y berthynas rhyngddo â'i Grëwr yn crëu deddf iddo. Datguddiad o'r hyn ag ydoedd inewn bod o'r blaen ydoedd cyhoedd- iad y ddeddf ar Sinai: datguddiad ydoedd, nid gosodiad. Pan y rhyddyr haelionu9 gymwynas i'r anghenog, nid oes achos iddo ddywedyd er mwyn ffurfio rhwymedigaeth, "Bydd ddiolchgar;" y mae y rhwymedigaeth yn tarddu i fod o angenrheidrwydd y berthynas rhwng y naill fel rhoddwr, a'r lla.ll fel derbyniwr. Pan yr erbyd y brenin fywyd y troseddwr, nid oes aehos iddo gyhoeddi cyfraith i'w rwymo i fod yn ddîolchgar- y mae y rhwymedigaeth wedi tarddu yn y weithred o'i arbed. Nid crëu dyn a ddarfu Duw, a rhoddi deddf iddo wedi hyny i ateb dyben ei greadigaeth: Chwbfror, 1865. . f