Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae "yr annibyswb" wedi ei uno. BODOLAETH DÜW, " Yr hyn a ellir ei wybod am Dduw." Mae yr ymadrodd, " Yr hyn a ellir ei wybod am Dduw," ar unwaith, yn tybied nas gellir gwybod y cwbl am dano. "Rhanau ei ffyrdd ef" syddyn eglur i ni ar y goreu; mae "taranau ei gadernid ef" uwchlaw ein ham- gyffredion. Mae llawer o bethau am Dduw nas gellir eu gwneud yn wybyddus i ni. Nid ydynt yn wybodadwy. Maent o angenrheidrwydd yn ddirgelwch. Nis gall y meidrol gynnwys yr anfeidrol, y terfynol gynnwys yr annherfynol. Mae terfyn nas gall y meidrol fyned y tu hwnt iddo. Mae yn wir nad yw terfyn eitbaf y meddwl dynol etto wedi ei gael allan, ond o angenrheid- rwydd y mae terfyn iddo; felly nis gall y terfynol a'r meidrol gynnwys yr annherfynol a'r anf. idrol. Mae ambell i feddwl athrylithgar, weithiau, yn ymddangos yn y bydfel wedi ei gynnysgaeddu âgalluoedd goruwcbnaturiol, ac fel pe byddai wedi cael allan, trwy ddadguddiad, y cwbl a gafodd pawb o'i flaen trwy ymchwiliad; a chan gychwyn ei yrfa lle gorphenasant hwy, ymwthia yn mlaen i'r dyfnderau, lle ni sathrodd dyn marwol o'r blaen, ac agora ei Iygaid ar diriogaethau newydd o feddwl a bydoedd o ddefnydd. Ònd daw yntau, o'r diwedd, i derfyn eithaf ei alluoedd, a theimla fel y teimlaì Newton ar derfyn ei oes, fod cefnfor mawr gwirionedd etto heb ei fordwyo ganddo. " Nis gwn," ebe y gwr mawr hwnw, "beth wyfyn ymddangos i'r byd, ond i mi fy hunan yr wyf yn ymddangos fel bachgen yn chwareu ar ytraeth,ac yn difyruei hun wrth gael ambell i gragen harddach, neu gàreg lyfnach na chyffredin, tra y mae cefnfor mawr gwirionedd yn gorwedd o fy mlaen heb ei ddarganfod." Ac os fel yna y teimlai Newton â'i feddwl cawrfilaidd, yn sicr, pa faint ddylai gwylder meddyliau cyffredin fod uwch- ben "dyfnion bethau Duw!" Y mae gwirioneddau am Dduw nas gellir eu trosglwyddo i'n hamgyffred- ion. Nis gallwn eu dirnad; a chyda pharch y dymunwn ddweyd, nis gall Duw eu gwneud yn hysbys i ni. Mae "dyfnion bethau Duw" yn rhy fawr i'w trosglwyddo i'r creadur uchaf ei amgyffredion. Onid oes cy- ngreiriau yn cael eu ffurfio rhwng teyrnasoedd agy maeanmhosiblrwydd i'r tad gyflwyno dirnadaeth o honynt i'r plentyn tair blwydd oed? Nid ydym ni ond plant, ac y mae y gwirioneddau mawrion cysylltiedig â bodolaeth, natur, a chymeriad Duw uwchlaw ein hamgyffredion ni. A gwyddom fod pethau yn amgyffredadwy i ni o fewn terfynau neillduol; ond unwaith yr eir y tu hwnt i'r terfynau hyny, y mae y meddwl yn ymgolli ac yn ym- ddyrysu, a pho fwyaf ddywedir arnynt, ni wna y cwbl ond tywyllu y mater. Mae genym ddirnadaeth am bellder o fewn terfynau neillduol. Gwydd- Mehefin, 1865. »