Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn t mae "yr annibynwr" wedi ei uno. Y EHYWBETH, PEN. VI. Y oanoen nesaf o'r pwnc dan sylw a ddeuai o dan ystyriaeth yr ysgrifen- ydd oedd hon—A oes yn y Beibl fath o etholedigaeth bersonol ac anam- modol yn rhai o oruchwyliaethau y Brenin mawr tuag at ddynion, yn mhethau y byd a'r bywyd hwn, i'w chanfod? Rhaid i bob un a addefo ddwyfoldeb yr ysgrythyr addef hefyd mai ynddi hi y ceir yr esboniad goreu aroruchwyliaethau rhagluniaeth ddwyfol, mor belledag y llefaraam danynt, canys esboniad Dnw ei hun ar ei weithredoedd ydyw. Gellid rhoddi y cwestiwn yn y ffurf hon—A ydyw y Beibl yn llefaru am ryw bethau a dy- gwyddiadau a gymerant le ar y ddaear, fel goruchwyliaethau penarglwydd- iaethol Jehofah, neu amlygiadau o'i ewyllys ef fel Penllywydd y byd, yn annibynol ar ewyllysiau a gweithredoedd dynion, ac ar unrhyw ammodau? Tybiai ef y pryd hwnw, ac felly y tybia y pryd hwn, bod aneirif ymadrodd- ion yn y Beibl yn ateb y cwestiwn yn gadarnhaol, yn y modd mwyaf pendant aceglur. Nid yw yn cofio ddarfod iddo glywed na gweled neb a geisiai wadu hyny: ond, yn wir, nid yw yn cofio ychwaith glywed neb na gweled neb yn gofyn y cwestiwn. Fod llawer iawn o bethau ac angenrheidiau bywyd dyn wedi eu gosod ar ammodau sydd yn berffaith amlwg yn ngoleuni rheswm a phrofiad cyffred- inol, yn annibynol ar yr ysgrythyr—pethau nas gall efe byth eu cyrhaedd a'u mwynhau heb gyflawni y cyfryw ammodau. Gwyr pob hauwr, a phob bwytawr yn gystal ag yntau, bod llafurio y ddaear a hau yr had yn ammod- au anhebgorol medi—bod bwyta ac yfed, a gwisgo dilíad, yn ammodau cynnaliaeth a chysur bywyd, &c. Ni wyr y dyn sydd yn bwrw had i'r ddaear pa fodd y mae yr had yn tyfu, yn ffrwytho, ac yn addfedu, ond gwyr yn hysbys ddigon na thyfai ac na addffedai ffrwyth ar ei faes byth heb iddo ei aredig a'i hau. Felly hefyd y bwytawr, ni wyr efe pa fodd y mae ei ymborth yn troi yn faeth i'w fywyd yn ei gylla, neu pa fodd y mae ei ddillad yn gynhes am dano; ond gwyr yn burion na allai fyw heb fwyta, na bod yn gynhes heb ddillad. Yr holl bethau hyn a'u cyffelyb y mae nat- uriaeth ei hun yn eu dysgu. Ymeifl dynion yn yr ammodau hyn am eu bywyd, eu cynnaliaeth, a'u cysuron, heb betruso dim oll yn nghylch athron- iaeth y pa fodd a'r paham—pethau amlwg a roddwyd iddynt ydynt, fel y gwybyddent ac y gwnelent hwynt, ac y maent yn eu gwybod ac yn eu gwneud, heb ymddyrysu dim yn nghylch y dirgeledigaethau sydd yn perth- ynu iddynt. Ond i ddychwelyd at y cwestiwn, ac yn— 1. Dywed yr ysgrythyr bod amserau a therfynau preswylfod holl gen- edloedd a holl genedlaethau y byd, wedi eu rhagdrefnu a'u gosod gan yr Gorphbnaf, 1865. u