Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD •yda'r hwn t mae "yr asnibynwr" wedi ei uno. MRS, ROWLAND EYANS, MORBEN, GER MACHYNLLETH. Parhad o íudalen 241. "Gwraio ddoeth a adeilada ei thý\" Yr oedd amgylchiadau tymmorol Mrs. E. y cyfryw a allasai roddi achlysur iddi feddwl nad oedd yn ddyled- swydd arni weithio; ond yr oedd amgylchiadau y teulu yn caelllafur ei dwy- law, gwyliadwriaeth ei llygaid, a thiefn ei meddwl; am hyny, nid ofnai lii am ei theulu yn amser eira. Nid yw gweithio a gofalu am amgylchiadau teulu islaw honour y ferch a'r wraig anrhydeddusaf. Yr oedd Sarah, gwraig Abraham gyfoethog, yn darpar ar gyfer angen y teulu; Rebecab, merch Bethuel, ar y maes gyda phraidd ei thad; a Rahel, merch Laban, yn bu- geilio defaid. Ond nid ydym yn mcddwl fod dyledswyddau a gwailh gwragedd y cynoesoedd yn gynllun i wragedd yr oesoedd diweddaf hyn. Yr oedd amgylchiadau bywyd y pryd hwnw jn natur, ond yn awr y mae yn llawer mwy celfyddol, ac yn myned yn fwy felly bob dydd. Yr oedd cyfoeth y byd y pryd hwnw yn ffrwyth natur, ond yn awr gan mwyaf yn ffrwyth celfyddyd. Nid rhyw lawer o feddwl a dyfais oedd yn amgylchiadau bywyd gynt, ond yn awr, er fod llafur corff yn cael ei leihau, y mae y meddwl yn cael ei lwytho yn fwy yn barhaus. Rhyw fath o beiriant yw amgylchiadau bywyd yn bresenol, ac y mae i bob peir- iant ei reolydd, a llaw y wraig sydd i fod wrlh y regulator teuluaidd; ac os na bydd y regulatorjn cael ei lywodraethu yn briodol, dryllia y peiriant, ac ni chyrhaedda ei amcanion. Mae y peiriant teuluol yn rhyw fath o ysgog- ydd gwastadol, yn tynu i mewn ac yn taflu allan, yn casgluacyn gwasgaru. Mae dau allu yn perthyn iddo, ac y mae cysur adedwyddwch amgylchiadol yn dibynu ar iawn lywodraethiad y galluoedd hyn; o herwydd, "rhyw un a wasgar ei ddâ, ac efe a chwanegir iddo; a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi." " Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylaw i'r anghenus." Mae fod rhai o'r teulu dynol yn dlawd ac anghenus, a'r lleill mewn amgylchiadau gwell, yn fwy o fantais er dedwyddwch a chysur y byd, na phe buasai pawb yn gyfoethog ac yn gydradd eu ham- gylchiadau. Pe felly, ni chawsai y tlawd yr hyfrydwch o dderbyn na'r mwynhad o deimlo yn ddiolchgar, ac ni chawsai y cyfoethog y pleser o roddi; a'i golled ef fuasai fwyaf, oblegid dedwyddach yw rhoddi na der- byn. Mae y syniad o gydraddoldeb amgylchiadol plant dynion wedi tarddu yn hollol oddiar anwybodaeth neu anystyriaeth o natur dyn. Pe na byddai dynion yn ddim amgen na choed wedi eu cymynu, a'u llnnio gan y crefftwr, gallesid eu gosod yn gydradd heb eu niweidio; ond y mae dyn yn gyfryw yn ei natur fel y collai ei ddedwyddwch trwy gydraddoldeb. Á phe Mjbdi, 186S 3 •