Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: otda'b hwn y MAE "TR ANNIBY'NWR" wedi ei uno. Y DYDDIAU GYNT, JTEU HANNER CAN' MLYNEDD YN OL. Goddefed darllenwyr y Dysgedydd y tro hwn i'r ysgrifenydd ddodi ger eu bronau ddarhmiad, oddiar adgof a sylw, o ansawdd cymdeithas, ac arferion teuluaidd a chrefyddol, yn mysg preswylwyr un o gymoedd mynyddig Meir- ionydd, o hanner cant i hymtheg a deugain o flynyddoedd yn ol. Gall dar- lun o'r cwmwd hwnw, íel yr oedd yn yr adeg a nodwyd, fod mor fuddiol i'r darllenwyr a phe cawsent draethawd synwyrlym ar "Gyfiawnhad drwy tfydd," i'w ddarllen a'i fyfyrio, yn nechreu y Rhifyn presenol; o leiaf, bydd yr ychydig o amrywiaeth a fwriedir y waith hon yn berffaith ddiniwaid. . Awgrymwyd uchod fod y cwm yn fynyddig, ac felly yr oedd. Rhosdir garw, yn dwyn grugwellt, oedd llawer o'r caeau; a'r cloddiau yn geimion, yn gŵyro draw ac yma, am fod eu gwneuthurwyr am gael y fantais o unrhy w gareg fawr a ddygwyddai fod yn agos i wneud rhanau o honynt. Yr oedd rhanau helaeth o'r meusydd heb eu harloesi erioed; a digaregwyr yr oesoedd gynt wedi pentyru y ceryg a gasglent ar hyd wyneb y tir fel math o amddi- ffynfeydd ar hyd y caeau, er eu diogelu rhag gelynion, yn ol dim a allasai dyn anhysbys o'u harferion ddeall. Yr oedd y tai yn isel, fel na cha'i y gwyntoedd cryfion lawer o graff arnynt, a'r rhif luosocaf o honynt wedi eu toi â gwellt, brwyn, neu redyn: ond yr oedd y llechau, hyd yn nod y pryd hwnw, wedi dechreu ymlid y toau gwellt a brwyn o'r wlad. Ychydig o'r tai oedd yn meddu llofftydd, a'r ychydig a welid oeddynt yn fychain iawn, îic yn ymyl y to. Gerllaw y cwm, o bob ochr, yr oedd bryniau uchel yn dyrchafu eu penau, fel pe buasent yn appelio at y nefoedd am ei nawdd i'r trigolion. Yn y bryniau hyn yr oedd creigiau danneddog yn ysgymygu ar eu gilydd; ac ar dalgraig, yn nghylch canol y fan, yr oedd hen gastell, a fuasai gynt yn gadarn, ac yn breswylfa i rai, a llawer, mae yn debyg, o arglwyddi a llyw- iawdwyr y broydd cylchynol. Ychydig a wyddai y trigolion o'i hanes ef na'i breswylwyr; ond pe gallasai ei geryg lefaru, diau y traethasent i ni "ddammegion o'r cynfyd." O fynwesau y moelydd a'r mynyddoedd tarddai llawer o ffynnonau gloewon, y rhai nad aent byth yn hesb, ond a gyfoethog- ent y cwm, haf a gauaf, â digon o'r dwfr goreu yn y byd. Rhedai nentydd rhwng y bryniau, gan drystio; ac yn fynych ymddangosent fel ffrydiau o laeth yn cael ei dywallt i waered o fuchesau y mynydd-dir. Ar hyd y cwm Awst, 1867. t