Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: «m'R HWN Y MAË " TR ANíîIBYNWR " WEDI EI UNO. YR YSGOL SUL-TRI LLYFR YR ATHRAW, Mae llawer o lyfrau, heblaw y tri yr ydym yn myned i'w henwi yn bresenol, yn ddefnyddiol i athraw yr Ysgol Sul. Mae geiriadur neu eiriaduron ysgrythyrol yn ddefnyddiol iawn iddo, ac esboniadau da, a mapiau, a byw- graffiadau athrawon, a chyhoeddiadau cyfnodol fyddo yn croniclo gweithred- iadau Ysgolion ac Undebau Ysgolion, a llawer o bethau eraill ellid eu henwi. Y mae crefftwr da yn cyflenwi ei hunan â phob arfau a fyddo yn perthyn i'w alwedigaeth, gan wybod y daw pob math o honynt, rywbryd neu gilydd, i wasanaeth: felly yr athraw da, hyd ag y gall. Ac yn wir, dylai fod yn perthyn i bob Ysgol Sul lyfrgell helaeth, at wasanaeth athrawon ac athrawesau. Ond yr oedd genym dri llyfr neillduol mewn golwg yn bresenol, fel rhai anhebgorol i bob athraw eu myfyrio yn dda—ei Feibl, efe ei hun, a'i ddosbarth. * I. Ei Feibl. Rhaid iddo fyfyrio ei Feibl yn ddyfal a manwl. Rhaid iddo íbd a'i ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos. Dylai ym- gyfarwyddo âg ef yn mhob cẁr o hono, fel y byddo ganddo amcan lled dda am bob peth sydd ynddo. Dywedid am General Lee, yn y rhyfel diweddar yn America, fod ei gyfarwydd-der anghyffredin â thalaeth Yirginia—â'i mynyddoedd a'i bryniau, â'i hafonydd a'u bylchau, â'i dyffrynoedd, â'i bluffs a'i choedwigoedd—wedi bod yn un o'r prif bethau a'i galluogodd i ddal allan cyhyd yn erbyn ei wrthwynebwyr. Athraw yn fwy cyfarwydd â Talhaiarn, â Twm o'r Nant, â Burns, â Shakspeare, a'r heidiau ífugchwedlau coeg sy'n tyru byrddau llyfrwerthwyr, ac yn britho papyrau newyddion a chyhoedd- iadau misol ac wythnosol, fel chw}rn blodeuol mewn gerddi wedi eu gollwng yn wyllt—nid ydyw yn gymhwys i'w waith. Nid yw yn ymserchu yn ei lyfr, ac nid yw yn ysbryd ei waith. Gallai y Beibl achwyn arno, fel y wraig hòno a achwynai yn sènllyd ar ei gwr, yr hwn oedd a'i drwyn o hyd yn y papyr newydd—"O,'' meddai, "na bawn i yn bapyr newydd!" "Paham yr ydych yn dymuno fellyl" meddai yntau, gan godi ei lygaid arni dros ymyl ei newyddiadur. "Wel," meddai, mewn atebiad, " buasech yn edrych arnaf innau weithiau wedi hyny." Oni allai y Beibl ddweyd y cytfelyb wrth lawer athraw? Ond dyma lyfr athraw yr Ỳsgol Sul, a gofyna ei waith, a gofyna Duw, ei fod yn gyfarwydd âg ef. "Chwiliwch yr ysgrythyrau," yw y gorchymyn. Dylai ei ddarllen fel llythyr cariad. Dylai ei chwilio fel y chwilia un berllan am ffrwythau addfed; neu fel y chwilia anturiaethwr mwnawl ochrau y mynyddoedd a'r creigiau am feteloedd; neu fel y chwilia Medi, 1867. 2 b