Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD otda'r hwn y hae "yr annibynwr" wedi ei uito. TANGNEFEDD EGLWYSIG. Trwy drugaredd, y mae tangnefedd eglwysig yn beth rhy gyffredinol adna- byddus erbyn hyn i'w gwneud yn angenrheidiol i'w esbonio. Gwyr y dar- ìlenydd yn ddigon da at beth y cyfeiriwn, am nad ydyw tangnefedd, ni a obeithiwn, yn beth dyeithr yn yr eglwys lle y mae yn aelod. Bellach, y mae terfysgoedd eglwysig yn gynnyddol anaml. Erbyn hyn y mae eglwysi a gweinidogion yn deall eu perthynas â'u gilydd, yn nghyda'u dyledswyddau at eu gilydd, yn llawer gwell nag y buont; ac y mae cydaelodau eglwysig wedi gwneud cryn gynnydd yn y wers Gristionogol o oddef eu gilydd mewn cariad. Yr ydym wedi ein hargyhoeddi bellach fod heddwch eglwysig yn Uawer iawn pwysicach na llawer yn nghyd o'r mân bethau y bu ein tadau yn ymladd â'u gilydd yn eu cylch. Bu yr enwad Annibynol, efallai, lawn mor enwog ag un enwad ar-all am ei frwydrau eglwysig ; ac y mae yn dda genym feddwl nad ydyw yn bresenol yn ol iddynt mewn heddwch. Ac y mae yn amlwg i bawb fod ein cyfansoddiad eglwysig ni y fath, fel y mae anghydfod yn bur debyg o ddyfod i'r golwg lle byddo. Os gall enwadau eraill, sydd a'u cylchau yn fwy cyfreithiol, ei guddio am dymmor, nid yvf j gallu hwnw gyda ni; ac ni a hyderwn mai nid ffrwyth difaterwch yw ein heddwch—difaterwch am egwyddorion a gwirioneddau; am gynlluniau a chyflawniadau annheilwng : ni a obeithiwn yn hytrach fod ein tangnefedd eglwysig yn ffrwyth gweithrediadau santeiddiol yr Ysbryd Glan yn ein plith. Ond lle y byddo tangnefedd yn bodoli y mae pwys i'w gadw. Y mae pwys i gwlwm y tangnefedd beidio cael ei dòri na'i ddattod, Y maé tang- nefedd eglwysig yn bwysig yn ei berthynas â chrefyddwyr eu hunain. Mae tangnefedd eglwysig yn bwysig er iddynt gael y mwynhad cyflawnaf o gys- uron crefydd. Y mae llawer o ffynnonellau cysui'on i'r saint; ond gellir edrych ar eu cymdeithas â Duw, a'u cyuideithas â'u gilydd, fel y prif rai. Ond nid llawer o gysuron personol gaiff dyn os bydd tangnefedd wedi ei ymlid o'r eglwys lle byddo yn aelod o honi. Os dyn duwiol fydd, cythrybla helyntion yr eglwys ymiysongar hyd yn nod ei gymdeithas â Duw; ac ni chaiff nemawr o gysur cymdeithasol. Y mae y gymdeithas eglwysig wedi ei bwriadu i chwanegu cysuron yr aelodau, rhagor fyddai iddynt ar eu penau eu hunain ; a phan fyddo pob peth yn heddychol a thangnefeddus mewn eglwys, bydd ei chysuron cymdeithasol yn llawer. Y mae yn hyfryd gan grefyddwr llwfr ac ofnus gael clywed gan ei frodyr sut y darfu i Dduw eu gwaredu hwy mewn saith ac mewn wyth o gyfyngderau. Ac y mae pob un Tachwedd, 1867. 2 h