Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'b hwn r MAE "tr annibtnwe" wedi ei üno. PA FODD I DDEALL Y BEIBL. Mae dyn yn gyfansoddiadol grefyddol. Nis gall ei ddeall ymfoddloni yn hir heb ryw beth ysbrydol. Buan iawn y sugna i fyny yr oll a ddeillia oddi- wrth olygfeydd prydferth, neu unrhyw ífynnonell arall o eiddo natur. Mae prydferthwch anian yn myned yn fuan yn ddiflas gan y meddwl. Y mae arno eisieu rhywbeth mwy cydweddol â'i natur ei hun. Wedi iddo fyfyrio am beth amser ar y prydferthwch sydd mewn natur, mae yn dechreu ymholi am y sylfaen ysbrydol ar ba un y mae y prydferthwch hwnw yn gorphwys. Yma mae yn dyfod i gyffyrddiad uniongyrchol â'r ysbrydol, oblegid y mae yn taflu heibio bob peth arall fel yn annigonol i fod yn sylfaen prydferthwch. Gwir na fedr y deall amgyffred yr ysbrydol; er hyny mae y deall yn ymes- tyn ar ol yr ysbrydol, ac nis gellir ei ddigoni â dim arall, oblegid y mae o hyd yn gofyn, Beth oedd cyn hyn? neu, Beth a fydd ar ol hyn? Ond pan. gofiwn fod dyn yn feddiannol ar reswm, neu ran ysbrydol, yr ydym yn teimlo ein hunain ar unwaith wedi ein codi uwchlaw natur. Ni fedd natur ddim i daro rhan foesol dyn; mae hon yn byw yn hollol ar y goruwchnatur- iol; a pha bryd bynag y caffo chwareu teg, dengys yn amlwg i ddyn ei sefyllfa, a'r angen mawr sydd arno am gymundeb â'i Greawdwr. Mae yn natur foesol dyn rywbeth yn dysgu iddo nad yw fel y dylai fod rhyngddo ef a'r Duw a'i gwnaeth. Gwyr ei fod yn mhellach oddiwrtho nag y dylai fod. Teimla hefyd ei fod yn hollol analluog i uno ei hun â Thad yr ysbrydoedd. Nis gall un dyn byth feddwl ei bod yn ddichonadwy iddo ef uno ei hun â'i Greawdwr trwy ei haeddiant ei hun, oni b'ai ei fod yn darostwng y rheswm neu y rhan ysbrydol yn gaeth i'r deall. Pe goddefai i'w natur foesol lefaru, dywedai ar unwaith fod hyny yn analledig, a dangosai, os yw yr undeb dymunol yma i gael ei ffurfio, y rhaid iddo fod yn effaith gweithrediad o eiddo Duw, wedi ei ddwyn yn mlaen ar gynllun neillduol, yn yr hwn yr amlygid ei gyfiawnder a'i drugaredd, ei santeiddrwydd a'i gariad. Mae yn amlwg mai cynllun fel yma, er uno dyn â Duw, yw yr unig beth allasai fod yn sylfaen datguddiad dwyfol, teilwng o Dduw a Uesol i ddyn. Pe na buasai datguddiad dwyfol yn cynnwys cynllun er uno dyn â Duw, buasai ar y naill law yn ddianrhydedd ar gymeriad Duw, ac yn gwbl ddiles i ddyn. Er dangos y buasai datguddiad o hono ei hun, heb gynnwys ynddo gynllun i uno dyn â Duw, yn annheilwng o'r Bod hollddoeth, gallwn sylwi fod Duw, trwy holl natur, yn dangos gofal i beidio arfer mwy o foddion nag a fyddo angenrheidiol i gyrhaedd yr amcan mewn golwg. Pe na buasai Duw yn bwriadu uno dyn âg ef ei hun, yr unig amcan allasai fod mewn golwg wrth roddi datguddiad fuasai gwneuthur ei hun yn fwy hysbys, fel ag i gynnyddu gelyniaeth a mwyhau euogrwydd dyn. Mae yn amlwg nad oedd Htdèef, 1868. 2 e