Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD GYDA'b. HWN Y MAE "YR ANNIBYNWR" WEpi EI TJNO. üutomgîrîriaetf). PEEGETH GOFFADWRIAETHOL FEDDAR MES. A. JENKINS, PRIOD Y PARCH. E. C. RHYMNI. A draddodwyd yn Ngliapel Salem, Trelyn, Mai 26, 1868, AM Y DDIWEDDAR MES. A. JENKINS, PRIOD Y PARCH. E. C. JENRINS, RHYMNI. GAN Y PARCH. E. HUGHES, PENMAIN. "A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Wele, fab dyn, fi yn cymeryd oddi- wrthyt ddymuniant dy lygaid à dyrnod: etto na alara ac na wyla, ac na ddeued dy ddagrau. Taw á Uefain, na wna farwnad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chau ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion," Ezec. xxiv. 15—17. Gwr Duw oedd y prophwyd Ezeciel, cenad Arglwydd y Duoedd, wedi ei gyfodi gan Dduw i'r genedl Iuddewig, a'i osod yn wyliedydd i dŷ Israel. Y modd y gorchymynai yr Arglwydd iddo wneud yr oedd i wneud, a'r pethau a orchymynai yr Arglwydd iddo lefaru yr oedd i lefaru. Yr oedd ymddyg- iadau drwg y genedl yn gosod y prophwyd o dan yr angenrheidrwydd i ddy- oddef llawer, oblegid yr oedd yn rhaid iddo bregethu llawer iddynt trwy arwyddion, a'r arwyddion hyny yn gelyd i'w cyflawni, ac yn boenus i'w dyoddef. Mae gweision Duw etto yn gorfod dyoddef Uawer mewn gwahanol ddulliau, o herwydd ymddygiadau annuwiol deüiaid eu gweinidogaeth. Cawn y prophwyd yma yn gorfod gwneud fel y canlyn, er bod yn arwydd i dŷ Israel:—Gorwedd ar ei ystlys aswy dri chan' niwrnod a deg a phedwar ugain; ac felly i ddwyn anwiredd tý Israel, i fod felly dan rwymau, fel na throai o ystlys i ystlys: ac wedi gorphen hyny, gorwedd drachefn ar ei ystlys ddeheu am ddeugain niwrnod; cymeryd gwenith, haidd, ffa, ffacbys, milet, a chorbys, gwneud bara o hyny, ei grasu wrth fiswail gwartheg, a'i fwyta wrth bwys, ac yfed dwfr wrth fesur. Goruchwyliaeth dra chwerw oedd hona iddo, yn arwydd o farn Duw ar Jerusalem. Bryd arall gwelwn ef yn cael gorchymyn i gymeryd cylleîl lem—ellyn eillio, ac eillio ei ben a'i farf; yna cymeryd clorianau pwys, a'u rhanu; a dyma y modd yr oedd i wneud â hwy,—"Traian a losgi yn tân yn nghanol y ddinas, traian a gymeri ac a'i tarewi â'r gyllell o'i amgylch, a thraian a daeni gyda'r gwynt; a mi a dynaf gleddyf ar eu hol hwynt. A chymer eil- waith rai o honynt, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân; o hono y daw allan dân i holl dŷ Israel." Amser a ballai i mi sylwi ar lawer Chwisfjrob, 1869. c