Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: oyda'r hwn y mae "yr annibynwr" wedi ei uno. SBtitoingìtòiactf). AELODAETH EGLWYSIG.* ""Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y JeruBalem nefol."—Heb, xii 22, Y mae y gair "eithr" yn neclireu yr adnod yn dangos y cysylltiad cyfer» byniol sydd rhwng y geiriau hyn a'r adnodau blaenorol; ac y mae y cyferbyniad a wneir yma yn gyson â j>hrif feddylddrych a nodwedd cyffred* inol yr holl epistol. Fel y mae yn eithaf gwybyddus, amcan, neu o leiaf un o brif amcanion yr epistol pwysfawr a rhagorol hwn, ydyw egluro gwahaniaeth cyfatebol, a rhagoriaeth cymhariaethol, yr oruchwyliaeth efengylaidd ar yr un gysgodol: rbagorìaeth Crist, feì awdwr a pherfleithydd yr oruchwyliaeth, ar Moses—fel ofíeiriad, ar y rhai " a gymerid o blith dyn- ion"—fel aberth ac fel allor, ar eiddo "y tabernacl cyntaf/' ac ýn ngeiriau y testun, rhagoinaeth "lle ein cysegr ni" ar y lle ofuadwy y gwysiwyd meibion Israel â gwarant o'r nef i ddyfod i wrando ar reol uniawn a pherífaith eu dyledswydd tuag at Dduw a dynion: "Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy," &c. (hyd ddiwedd 21); "Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol." Y mae'n debygol mai prif feddylddrych y testun, ydyw gosod allan freintiau mawrion y Cristionogion rhagor addolwyr Duw dan yr hen gyfammod. Fel pe dywedasai yr apostoi, "Chwennychodd llawer o brophwydi a rhaì cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nìs gwelsant; a chlywed y pethau a g'lywch chwi, ac nis clywsant." Y mae i chwi etifeddiaeth deg. Arnoch chwi "daeth terfynau yr oesoedd." Mawr yw eìch breintiau chwi ar y ddaear, yn gystal a mawr fydd eich gwobr yn y nefoedd—"Eithr chwi a ddactboch i fynydd Seion," &c. Y mae'n eglur mai eglwys Crist, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed, a olygir yn ymadroddion y testun wrth "fynydd Seion," "dinas y Duw byw-/' "y Jerusalem nefol." "Mynydd Seion," mewn cyferbyniad i'r " mynŷdd teimladwy," yr hwn oedd yn " ofnadwy" mewn pob golygiad. Y mae "dinas y Duw byw" yn golygu y syniad o ddiogelwch-—y syniad o gyflawnder, a'r syniad o anrhydedd: a " Jerüísalem nefol" mewn cyferbyniad i Jerusalem ar y ddaear. Gelwir hi yn "nefol" yn un peth, pa fodd bynag, am fod yr oll a berthyn i oruchwyliaeth y Testament Newydd yn nefol—^yn * Pwnc goaodedig yn Nghyfarfod Chwarterol Meirion, a gynnaliwyd yn Llanuwchllyn, lonawr 7fed, 1868. Traddodwyd y sylwadau yn Horeb, Arthog, BbriÚ y laf. Mawäth, 1869. b