Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae "ye annibynwr" wedi ei uno. SYLWEDD PAPYR A DDARLLENWYD WBTH EODDI FYNY Y GADAIB, YN NGHYMANFA ABERHOSAN, Mehefin 16, 1869, GAN Y PARCH. RICHARD JONES, LLANIDLOES. Anwyl Frodyr, a Chyfeillion Hoff : Yn unol â phenderfyniad y Cyfarfod Chwarterol yn y Dderwenlas, yr wyf yn anturio i ddarÜen-i'ch clywedigaeth y papyryn y ceisiwyd genyf eî barotoi. Yn y cyffredin, pan y byddo papyr yn cael ei ddarllen wrth gymeryd y gadair, dysgwylir i'r cadeirydd gyfeirio at y mesurau y bwriedir eu dwyn yn mlaen yn nhymmor ei lywyddiaeth, ac at y gorddangosion hyny yn awyrgylch y byd dinasaidd, a'r byd crefyddol, ag a fyddo yn galw am sylw neillduol; ond wrth adael y gadair, dysgwylir i'r llywydd wneuthur rhyw gymaint o adolygiad ar weithrediadau y flwyddyn a basìodd—an- sawdd gyffredin cymdeithas ar ypryd—yn nghyda'r dyledswyddau a orphwys ar Gristionogion er hyrwyddo a sicrhau dybenion ysgogiadau aruthrol ein hoes. I. ê Mewn ffordd o adolygiad, rhaid addef nad oes genym ond ychydig i'w wneud. Cawsom dri Cyfarfod Chwarterol, ac y mae y Gymanfa hon yn gwneud y pedwerydd; a da genym allu dywedyd fod pob un o'r cyfarfodydd hyny yn hynod o ran undeb a chydweichrediad yr aelodau. Pasiwyd amryw benderfyniadau fel arfer yn ystod y flwyddyn, ac os oes rhai o hon- ynt yn aros bron fel eu pasiwyd, y mae y gweddill yn neu wedi cael eu gweithio allan. Un o'r penderfyniadau a basiwyd oedd, gwneud ymdrech egnîol drwy y sir i gasglu ein dosran (£160) at ddilëu dyled Coleg Aberhonddu. Ym- gymerodd yr eglwysi yn egnîol â'r gwaith, fel erbyn heddyw, y mae nid yn unig y swm uchod wedi ei gasglu, ond barnwn yn ol tystiolaeth y casglydd- ion, y bydd casgJiad y sir yn £ 180, o leiaf; a da genym weled un coleg yn yDywysogaeth ag sydd yn addurh i'îi hehwad. Pasiwyd penderfyniad arall i gaei^ellâd yn amcanion a dull dygiad yn mlaen y Cyfarfodydd Chwarterol a'ruymanfe, yn y sir. I'r dyben hwn penderfynwyd cael papyr yn cynnwys awgrymiadau i'r perwyl. Nid ydym wedi gorphen y gorchwyl hwnw etto, ond-gan fod y gwaith mewn llaw, nid Medi, 1869. ,b