Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'b hwn y mae "yb annibynwb" wedi ei uno. d ©utomgìròiiaetf). GWIEFOBDOLEWYDD CYTOALIAETH CEEFYDD CYN YMDDANGOSIAD CRIST YN Y CNAWD. Yr oedd gan yr Arglwydd ei bobl ar y ddaear, yn mhob oes, er y dechreuad. Nid oes fawr o ammheuaeth na achubwyd ein tad a'n mam, Àdda ac Efa, trwý rastrefn fawr yr iachawdwriaeth yn Iesu Grist. Mae yr hanes sydd genym am Abel, Seth, Enos, Enoch, a Noah, yn y cyfnod cyn y diluw, yn dangos fod gan yr Arglwydd ei achos yn y byd, trwy holl oesoedd yr yspáid oedd o'r cwymp hyd dywalltiad y farn a lwyr ddyfethodd bob cnawd ond yr ychydig a waredwyd yn yr arch. Gellir casglu y bu adfywiad mawr ar grefydd yn nyddiau Enos, pan " y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd/^ ac mai un o blant y diwygiad hwnw oedd Enoch, yr hynotaf o'r saint cyn y dylif: ondyri ráddol,-cynnyddodd llygredigaeth, a llanwyd y ddaear â thrais a gorthrymder, nes oedd achos Duw wedi myned yn isel iawn yn y dyddiau oedd o flaen y diluw, ac oni buasai i Dduw gyfryngu yn y modd y gwnaeth, i waredu Noah ^a'i deulu, ac i ddinystrio yr hen fyd, yn ol pob golwg ddynol, fe ddarfuasai am eglwys Dduw oddiar wyneb y ddaear y pryd' hwnw. Digon tébŷg fod llaw gan " y cawri oedd wŷr enwog gynt" mewn darostwng achos yr Arglwydd i'r iselder y dygwyd ef iddo y pryd hwnw, yn gýstal a chan gynnydd cyffredinol llygredigaeth yn mysg dynion. Yr oedd crefýdd yn costio llawer i'w dwyn yn mlaen, yn rheolaidd, yn y cyfnod hirfaith ó ddechreuad y byd i'r diluw; ond nid oes yn y cofnodion sydd génym yn y Beibl yr awgrymiad lleiaf fod neb yn cael ei orfodi i'w chynnal. O'r bchr arall, y mae amrywiaeth aberthau Cain ac Abel, a phethau eraill a allesid eu nodi, yn awgrymu, yn gryf, fod dynion yn wir- foddolion trwyadl yn eu holl ymarferiadau crefyddol. Mae gwirfoddolrwydd yn hanfodol i grefydd bur. Ni all fod crefydd mewn dyn heb wirfoddol ymgysegriad i wasanaeth Duw; ac y mae y gwirfoddolrwydd sydd yn y rhoddiad o'r galon i Dduw, ar y cyntaf, yn rhedeg drwy holl ymwneud dyn âg achos Duw yn y cyflawniad o bob dyledswydd grefyddol. Heb y rhydd-' ewyllysiad gwirfoddol sydd dan sylw yn ei gyflawniadau crefyddol, nid yw dyn ddim yn weithredydd rhinweddol, o gwbl, mewn unrhyw gyflawniad' o'reiddo. Bu Noah fyw yn hir ar ol y diluw, ac o fewn dwy flynedd i'r amser y ganwyd Abraham y bu efe farw. Ymddengys fod crefydd, ar ol ei farwoî-, a«th ef, wedi colli tir yn mysg ei ddisgynyddion, nes y gwelodd yr Af-' glwydd yn angenrheidiol i neillduo Abraham, a'i hâd drwy ei fab Isaac, ì Tachwedd, 1869. x ■ - .r-Ow