Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'e hwn y mae "yb anntbynwr" wbdi bi uno. üutomgfcfcíaetf). DYLEDSWYDD EGLWYSI I DDEWIS GWEINIDOGION.* GAN Y PARCH. W. GRIFFITH, CAEEGYBI. Golud ein byd ni yw yr Efengyl a'i gweinidogaeth,—ac o holl deyrnäsoedd y byd, Prydain—ac o bob talaeth yn Mhrydain, Cymru, yn yr ystyr yma, sydd fwyaf goludog. Y mae y Weinidogaeth Efengylaidd yn ordinhad Duw yn ei Eglwys, ac yn un o brif roddion Mab Duw iddi. "Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai efe bob peth. Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi." Y rhai yna wedi darfod. " A rhai yn fugeiliaid ac yn athraw- on." Y rhai yma • i barhau. Nid rhai yn fugeiliaid a rhai yn athrawon a ddywedir, ond " rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon." Yr athrawon yn fugeiliaid a'r bugeiliaid yn athrawon: un dosbarth o swyddogion—"i waith y weinidogaeth "—a'r dyben i berfleithio (i berfíeithiad) y saint—" i adeilad corff Crist." Hyny yw, i wneud cyfansoddiad yr Eglwys yn berflaith gyflawn, —fel eorff cyflawn, heb un aelod o hono yn eisieuj neu adeilad gyflawn heb un ran o honi yn ddiftygiol. " Fel y cyjlaumai efe bob peth." Felly, cyn bod Eglwys yn gyflawn rhaid fod ganddi ei gweinidog, a hwnw yn ei swydd yn Fugail ac yn Athraw iddi. Nid yn Fugail yn unig, ond yn Athraw hefyd—yr Athraw yn Fugail a'r Bugail yn Athraw. Trachefn, y mae pob Eglwys drosti ei hun i ddewis ei Gweinidog ei hun. Cymdeithas wirfoddol yw Eglwys i fod. Nid oes gan neb hawl i'w gorfodi i dderbyn un o'i haelodau—llawer llai un o'i swyddogion. " Edrychwch yn eich plith eich hunain," meddai yr Apostolion wrth yr Eglwys yn Jerusalem, pan oedd eisieu JDiaconiaid i wylio dros ei hamgylchiadau. Pa faint mwy y dylai Eglwys edrych, ac y dylai gael rhyddid i edrych, pan fo eisieu BÌaenr oriaid i wylio dros eu heneidiau! A phan fyddo unrhyw Eglwys.yn defnyddio ei hawl hon, nid oes gan unrhyw Eglwys arall, nac unrhyw Aelod o Eglwys arall, hawl i'w beio am hyny. Yn lle beio, cyfarwyddo ac annog ein gilydd sydd i ni yn hyn, fel pob peth arall, i rodio a boddloni Duw. I'r dyben hyny ni geisiwn ddangos pa fath—pa fodd—a phaham j mae i ni ddewisî Flwyddyn yn ol y paham oedd fwyaf pwysig yii ei beiîbynas â Mon. Ond erbyn hyn, y mae amryw o'n Heglwysi wedi dewis—ac amryw etto yn addfed i ddewis. Y mae yn ymddangos, gan hyny, mai y ddau ofyniad eraill sydd bwysicaf yn awr. I. Pa fath i'w dewisî Nid pob math, ac nid pob máth o rai fíyddlon •—"Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis." 0*r * Mewn cydsyniad à chais cynnadledd Cymanfa Llangefni, 1868, darllenodd Mr. G. y papyr hwn yn nghynnadledd Cymanfa Llanerchymedd, 1869. Rhagfth, 1869. z