Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD gyda'r hwn y mae yk "annibynwr" wedi ei uno. YR YSGOL SABBATHOL FEL LLE I WNEUD A DERBYN DAIONL 0 HOLL greaduriaid Duw, dyn yw y rhyfeddaf. Yr ydoedd yn rhyfedd ac ofnadwy pan y daeth o law ei Greawdwr; ac y mae wedi gwneud ei hun yn wrthddrych sylw ac yn destun siarad cyffredinol, drwy bechu o hono yn erbyn ei Wneuthurwr. I wneud daioni y crëwyd dyn, ond dyn mewn anrhydedd nid arosodd. Gwnaeth ddrwg; ac aeth yn was drwg, diog, ac anfuddiol. Syrthiodd o'i sefyllfa o ddiniweidrwydd, a daeth yn bechadur. Gwnaeth angel yr un peth; ond ni elwir arno ef i edifarhau a dycliwelyd yn ol at ei waith, fel y gelwir ar ddyn. Y mae gallu dyn i wneud daioni yn fawr. Gall wneud daioni drwy siarad: " Angeu a bywyd sycld yn meddiant y tafod." Gall wneud drwg a da â'r un peth: " A'r tafod yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad; âg ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion a wnaethpwyd ar lun Duw. O'i un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith." Gall dyn wneud llawer o ddaioni drwy ysgrifenu. Nis gall yr un creadur wneud hyn ond dyn. Gall dywallt cenllif o fendith a chysur, neu o felldith a thrueni, drwy ei enau; a gall hefyd dywallt ffrydlif o ddy- ddanwch, neu o dristwch, drwy benau ei fysedd. Gall wneud llawer o dda neu ddrwg â'r gallu hwn. Gall dyn droi yr argraffwasg yn ffynnonell Uygredigaeth, yn wreiddyn chwcrwedd i beri blinder i oesoedd i ddyfod, neu yn blanhigfa prcnau i bereiddio dyfroedd goíid, ac yn weithfa halen i halltu dyfroedd llygrcdig yr oesoedd. Un o'r uatur yma yw Swyddfa'r Dysgedydd wedi bod eriood. Parhäed felly. Mae gan ddyn allu i wneud daioni drwy gyfranu addysg. Y mae dyn yn cael ei eni fel llwdn asen wyllt. Y mae pan yn dyfod i'r byd yn ddylach braidd nag un creadur; ond y mae yn dyfod yn fuan yn gyfrwysach ac yn ddoethach na holl fwystfilod yr anialwch, ac na holl anifeiliaid y maes. Y mae gan ddyn leoedd manteisiol neillduol i wneud daioni. Un o'r lleoedd hyny ydyw y teulu. Un arall ydyw yr Ysgol Sabbathol. Y mae yn anhawdd penderfynu pa un o'r ddau le hyn ydyw y mwyaf manteisiol. Nid yw hyn o un pwys: "Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiîîygiwn." Nid oes neb yn ddiog yn gwneud drwg. Ewch i'r dafarn a'r chwareudy i edrych a oes yno rywun yn ddiog, marwaidd, a chysglyd. Nac oes un. Mac yno bawb yn wresog,