Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r iiwn y mae yu "annibynwr" wedi ei üno. îSgtografòaetij. ADGOFION AM Y DDIWEDDAR MRS. JONES, O'R FRON-DEG, LLANDUDNO. "Departed friend3 , Are angels sent on errands full of love; For us they languish and for us they die; And shall they languish, shall they die, in vain ? Ungrateful, shall we grieve their hovering shades, Which wait the revolution in our hearts 1 Shall we distain their silent soft address, Their posthumous advice, and pious prayer?" Y mae adgofion am gyfeillion ymadawedig yn fynych yn orlawn o addysg- iadau tarawiadol i bawb, ac yn enwcdig i'r rhai a'u hadwaenent oreu. Yr oedd eu dybenion pur, a'u bywyd cysegredig, fel saint y Duw Goruchaf, yn ennill iddynt le uchel yn serch y cyhoedd. Y mae eu syniadau a'u profiadau yn werth eu coffa a'u dal allan fel cymhelliadau annogaethol iawn i eraill. Y mae y llythyrau a adawsant ar eu hol, a'r ymadroddion a ddyferodd oddiar eu gwefus, yn aros fel tystiolaeth o'r egwyddorion oedd yn llywodr- aethu eu calon, ac y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn. Y mae eu bywgraffiad yn dwyn ëu personau a'u dylanwad yn adnewyddol ger ein bron, fel y maent hwy, " wedi marw, yn llefaru etto." Cafodd yr Eglwys Annibynol yn Llandudno gryn golled yn ddiweddar yn ymadawiad nifer o'r aelodau i fyd arall, ac yn mhlith " y gwragedd penaf, nid ychydig," yr ydym yn cael enw Mrs. Jones. Bu farw Rhagfyr 4, 1869, gan adael priod gweddw ac amddifaid, sef dau o feibion a phedair o ferched, i alaru o herwydd eu colled ar ei hol. Merch ydoedd i'r diweddar Barch. Thomas Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Newmarket. Yr oedd yn briod â Mr. Thomas Jones, Goruchwyliwr y New Mines, yn Llandudno. Dichon mai efe oedd yr aelod cyntaf perthynol i'r Annibynwyr a ddaeth i breswylio i'r gymydogaeth hon. Yr oedd teulu y Fron-deg yn Mawbth, 1871. B