Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yb "annibynwr" wedi ei uno. Elrlrggg. EGWYDDORION ANGHYDFFURFIAETH, Mak yn anmhosibl gorbrisio egwyddorion. Mewn Seryddiaeth, Daeareg, a'r gwyddonau anianyddol, ni wasanaethai yr hynodion a ganfydda yr hwn a'u myfyrio, fel ffeitbiau gwahanedig oddiwrth eu gilydd, ond i lanw y meddwl â phetrusder a dyryswch; oud wrth eu manwl ystyried, gwelir nad yw y ffeithiau hyny, er llnosoced, ac er mor amrywiol ydynt, ond gwahanol gymhwysiadau o ychydig egwyddorion. Felly mewn moesau a chrefydd, canfyddwn ychydig o egwyddorion sydd bob amser yn gymhwysiadol; ac yn ol y graddau y deallom yr egwyddorion hyny, y gallwn gyrhaeddyd amgyffredion cywir am wir natur moesoldeb a chrefydd. Nid oes un cylch o fyfyriaeth y gall dyn fyned iddo, lle y mae golygiadau mor amrywiol a chroes i'w gilydd, ag ydyw cylch crefydd; a gwneir rhan helaeth o hanesyddiaeth i fyny gan y dadleuon dideifyn a chynhyrfus a fu yn mysg dynion gyda golwg ar faterion crefyddol. Mae hanes Cristionogaeth yn arbenigol yn llawn o enghreifftiau o'r gwahanol opiniynau a goleddid, y rhai, yn fynych, a fuont yn achos o rwygiadau, o fwy neu lai o bwysig- rwydd. Y mae ymddidoliad yr Anghydffurfwyr o Eglwys Wladol y deyrnas hon yn esiampl nodedig o olygiadau gwrthdarawiadol yn diweddu mewn ymraniad, ac mae yn fater neillduol o deilwng o fyfyriaeth ac ym- chwiliad i mewn iddo. Gan ein bod yn proffesu ein hunain yn Anghyd- ffurfwyr, y mae o'r pwys mwyaf i ni ddeall, a gallu darnodi yr egwyddorion sydd yn rhoddi y fath bwys neillduol ar y symudiad hwnw; a'r egwyddorion hyny, wedi eu heangu fel y maent gan dyfiant meddyliol am ychwaneg na dau gant o flynyddau, yw testun y papyryn hwn. Ymddengys mai un o ddeddfau cyfansoddiad meddwl dyn ydyw fod y meddwl i gynnyddu mewn adnabyddiaeth o wirioneddau pwysig. Yn y dechreu, mae y cyfryw wirioneddau yn tywynu ar y meddwl yn wanaidd, a chyda llawer o gysgodion; ond yn raddol, cymerant ffurf fwy arbenig, fel braslinellau, a daw y dyn bob yn dipyn i feddu gwell dirnadaeth am eu natur a'u tueddiadau. Mae hyn yn drefniad doeth, a daionus, a thrugarog hefyd o eiddo y Creawdwr; oblegid pe buasai gwirioneddau yn ymruthro ar unwaith i'r meddwl gyda thanbeidrwydd, ac yn gwneud eu hargraffiadau Rhaoftb, 1871. z