Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. A'E HWK TB TJNWTD "tb annibtnwb." jPgfon ^úoonú^ <%ífogsig. Y mae iawn ddeall mater ein testun yn un o'r pethau pwysicaf i bob proffeswr, os nad i bob dyn. Y mae pob dyn yn aeîod o gymdeithas, ac fel y cyfryw yn. dylanwadu ar gymdeithas, naill ai er drwg, neu er da, o angenrheidrwydd, fel y mae cymdeithas yn dylanwadu arno yntau. Y mae pob dyn yn cael ei eni yn freiniol yn aelod o'r gymdeithas gy- ffredinol yma. Nid oes ganddo un dewisiad o gwbl yn ei aelodaeth. Orid am y cymdeithasau neillduol sydd yn cael eu fíurfio o'r gymdeithas gyffredinol, y mae dyn at ei ryddid i ymuno â hwy neu beidio. Ond, y mae dynion yn gyffredin yn ymuno âg amryw o gymdeithasau y ddaear— gwnant hyny am eu bod yn tybied y derbyniant ryw fantais oddiwrthynt. Ond y ffaith adnabyddus ydyw, fod llawer un yn gwneud camsyniad yn ei ddewisiad, ac y mae camsyniad ' yn arwain yn naturiol i gamymddygiad, a chamymddygiad drachefn yn diweddu mewn dinystr yn fynych iawn. Gan fod holl gymdeithasau y byd yn ddynol, y mae eu haelodau yn agored i gael eu twyllo ganddynt o angenrheidrwydd, ond y mae yn anmhosibl i Eglwya Dduw—y wir gymdeithas—dwyllo neb, oblegid ei bod yn Ddwyfol. Hwyrach y byddai edrych ar y testun yn ei ranau yn beth mantais i'w ddeall. Yr hyn a ddeallir yn gyfíredin wrth aelod ydyw rhan o gorff, fel mae'rtroed, llaw, y llygad, <fec, i gorff dyn—dyna yw darluniad y Testa- ment Newydd o'r credadyn yn Nghrist, "A chwi yn Uawer, ydych un corff yn Nghrist." Ond y mae ystyr triphlyg i'r gair eglwys yn y Testament Newydd—rhywbeth yn debyg i hyn:—1. Yr holl saint yn y nef ac ar y ddaear. 2. Yr holl gredinwyr ar y ddaear yn unig. 3. Cymdeithas, neu gynulleidfa neillduol o dduwiolion mewn cymundeb â'u gilydd, ac â'u Duw i ddwyn yn mlaen ei deyrnas yn y byd, megys yr Egìwys yn Nghorinth, neu yn Rhufain. Yn yr ystyr olaf yn unig y mae a fynom ni â'r mater yn bresenol. Y mae ein byd ni yn doreithiog o gymdeithasau o bob math, ac y mae amryw o honynt yn rhai teilwng a gwerthfawr iawn. Ond y mae yn dra sicr mai gan y gymdeithas eglwysig mae y dybenion uchaf a phenaf o honynt oll. Pa mor bwysig a gwerthfawr bynag all fod llawer o gymdeithasau sydd yn y byd, y mae eglwys Dduw yn uwch, îe, yn annhraeth- ol uwch a ptmysicach nag ydyw y gymdeithas oreu ar y ddaear. Khyw ddarbodaetb.au argyfer y corff sydd gan bron holl gymdeithasau ybyd hwn, ond rhywbeth ar gyfer y rhan anfarwol o'r dyn sydd gan yr eglwys. Y mae rhyw arbenigrwydd neillduol yn perthyn i'r gymdeithas eglwysig, fel y gellir ei galw, Y gymdeithas, fel mae y Beibl yn cael ei adnabod yn nghanol holl lyfrau y byd wrth Y Llyfr, a mab Mair y Forwyn, yn mhlith yr holl ddynion fu, ey, ac a ddaw, wrth yr enwau Mab Duw, a Mab y dyn. Awbt, 1873. *r