Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR. ÖLgbfogtò. (gan y parch. m. d. jones, bala). Mae llawer o gyneddfau ynom ni a cbreaduriaid eraill Dad ydys? beb ym- chwiliad, yn eu canfod ynunion. Mae y gynedddf o gerddoriaetb yn mhob dyn i radd bycban neu fawr. Gall dyn nad ydyw wedi astudio cerddor- iaeth ddweyd, i raddau, wrtb y glust beth yw canu da neu ganu gwael, am fod elfenau cerddoriaeth wedi eu planu ynom wrtb natur. Mae greddf yn yr anifail. Eler a cbolomen, neu ferlyn, neu ddafad o'u cynefin, a chluder hwynt i bellder mewn tywyllwch, a dycbwelant i'w cartrefieoedd yn nerth greddf, ac heb un hyfforddiant na cbynefindod â'r ffordd. Mae adar symud- ol ieuainc yn myned o wlad i wlad yr un mor rwydd a hen adar yn nerth eu gi-eddíau. Pa beth yw greddí y mae'n anhawdd i ni ddarlunio, er fod dyn yn reddfol ei hunan yn gwneud llawer o bethau. Greddf sydd yn gwneud i'r baban sugno. Yn nerth. greddf yr ydym yn bwyta ac yfed. Greddf sydd yn ein harwain i fwyta digon, ac i beidio bwyta gormod. Mae rhyw synwyr mewn cylla i ddweyd am angen bwyd, ac i ddweyd pa bryd yr ydym yn cael digon, nad ydyw yn bodoli mewn pen neb. Edrycher ar ddyn yn croesi clawdd, paham y mae yn crwcydu wrth neidio o ben y clawdd i lawr, yn Ue neidio o'i unionsytb. Mae deddf dys- gyrchiant yn tynu pob peth at y ddaear yn ol ysgwar y pellder, ac y mae dyn, wrth grwcydu, yn Ueihau pellder y corff' oddiwrtb y ddaear, ac felly yn lladd y codwm. Ónd y mae pobl nad ydynt yn deall dim am ddysgyrch- iant yn crwcydu yn nerth greddf, ac nid yn nerth gwybodaeth. Mae hyn oll yn dangos fod eisieu hunanymchwiliad i ddeall beth syddynom, adichon fod yma lawer o bethau cudd ynom o ran eu badau, ac y mae eisieu byd ysbrydol i'w tyfu a'u dwyn i'r golwg. "Wrth edrych i fewn i ni ein hunain, gwelwn fod yma allu deallol i wahaniaethu rhwng drwga da, rhwng gwirionedd achelwydd. Yn nerth ein deall y gwelwn fod dau a dau yn bedwar. Nid cydwybod sydd yn dangos hyn, ond y deall. Mae y deall yn aml yn gryf mewn dynion ao ysbrydion drwg, ond y gydwybod yn cysgu. Fel y mae greddf yn ein dysgu beth sydd yn ymborth, pa Iryd y mae arnom ei eisieu, a pba bryd y byddwn wedi cael digon, felly y mae ynom gyneddf, ar wahan oddiwrth y deall, i gymeradwyo y da ac i gondemnio y drwg, yr hon gyneddf a alwaf yn gydwybod. Mae modd i ddyn lygru ei archwaeth o fewn terfynau neillduol, ond ni fedr ei drawswneud a'i ddifodi yn gyfangwbl. Gall dyn ddwyn ei archwaeth i hoffi diod gadarn, neufyglys, ond ni fedr drawswneud ei archwaeth i fwyta pridd gyda hyfrydwch. Mae terfyn ar ein gallu i lygru yr archwaeth. Yn yr un modd y gall dyn lygru ei gydwybod, ond ni fedr dyn ei llwyr ddinystrio, fel 8g i arwain y gydwybod i gymeradwyo pob drwg, a'i osod yn lle daioni. Mae yn analluadwy i feddwl dynol gymeradwyo llofruddiaeth, Mai, 1875. i