Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD AÄ HWV YM. TTKWYD "VR AKKIBYKW*. Maje gweddio Duw wedi bod yn arferiad feunyddiol gan ddynion da yn holl oesoedd y byd. "Pob duwiol a weddia arnat ti yn yr amser y'th gefnr;" ac y mae dynion annuwiol iawn yn troi i weddio mewn eyfÿngderau mawrion, pan fyddo pob drws wedi cau arnynt ond drws trugaredd Duw. Mae yn ddiau fod y naill oes yn dysgu i oes arall weddio—rhieni yn dysgu y p^ant, a'r rhai hyny, pan gyfodont, yn dysgu eu plant hwythau, a chymydogion yn dysgu cymydogion eraill i alw ar Dduw —rhyw dduw neu güydd—pan fyddo cyfyngderau arnynt. Ond y mae gweddio yn tarddu o fíÿnon ddyfnach nag addysg ac arferiad. Cyfyd yn naturiol o ymddibyniaeth dyn ar Dduw, fel cread- ur sydd yn derbyn by wyd, ac anadl, a phob peth oll o law ei Greawdwr. Mae teimlad o ymddibyniaeth wedi ei wau gyda holl alluoedd dyn fel ereadur. Ysgrifenwyd ef megys a bys y Duwdod yn natur pob dyn; ac mewn amgylchiadau o gyfyngder, daw y teimlad yna o ymddibyn- iaeth i gyflawn weithrediad; a'r canlyniad ydyw, gwaeddl am help oddiwrth ryw fod sydd o'r tuallan iddo ei hunan, pa un bynag ai Baal neu Dagon, Jupiter neu y "gwir Dduw," fyddo y bod hwnw. Mae gorchymynion pendant yn y Beibl i ddynion alw ar enw yr Arglwydd—anogir hwy i wneud hyny; addewir y cant wrandawiad, os gofynant ddim yn ol ei ewyllys ef, ac a'u holl galon—a beiir hwy am beidio galw ar Dduw yn eu gwasgfaon a'u cyfyngderau. Mae y pethau hyn yn dangos yn eglur mai dyledswydd pob dyn ydyw galw ar enw yr Arglwydd. Dengys yn mhellach, fod dyledswyddau dynion yn seiliedig ar bethau sydd ynddynt hwy eu hunain; megys y teimlad o ymddibyniaeth, y galluoedd, a'r manteision, a'r rhydd-weithrediad a feddianant. Mae y pethau hyn oll, yn wreiddiol, yn rhoddion neu ffafrau o eiddo Duw i ddynion. Trwy gyfranu y pethau hyn iddo y gwnaeth y G-oruchaf ddyn yn greadur uwchraddol, ac i ragori cymaint ar yr anifeiliaid. Ond er eu bod yn wreiddiol yn ífafrau penarglwydd- iaethol i ddyn; eto, pan edrychom ar ddyn fel creadur cyfrifol i lywodr- aeth foesol Duw am ei holl feddyliau, ei eiriau, a'i ymddygiadau, y maent yn dyfod yn bwnc o gyfìawnder iddo. Mae ganddo fel creadur cyfrifol hawl iddynt. Ni byddai yn gyfiawn yn y llywodraeth ddwyfo ei ddal ef yn gyfrifol hebddynt, mwy na dal anifeiliaid y maes yn gyfrifol; ac ni byddai yn ddyledswydd ar ddyn i addoli a gwasanaethu y Goruchaf, pe yn amddifad o honynt. Felly y mae dyledswydd dyn i gyflwyno rhesymol wasanaeth i'w Greawdwr yn ymddibynu, nid yn Hydebf, 1876. t