Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'h ÌIWN VK UNWYD " Ylt ANNIBÍNWII." Itígtflj Inglatbol A Draddodwyd yn y Tabernacl, Caergybi, nos Fercher, Awst 24ain, 1881, Ar achlysur Marwolaeth y diweddar Barchusaf WilUam Griffith, Gweinid»g yr Eglwys Annibynol yn y lle uchod, o 1822 hyd 1881. GAN Y PARCH. W. REES, D.D., CAERLLEON. "Tychicus, y brawd anwyl, a'r gweinidog ffyddlawn."—EPHE3. vi. 20. Cymeradwyaeth a chanmoliaeth ucliel iawn, a'r uchaf oll, a allai dyn euill iddo ei hun, neu a allai dyn arall roddi i'r neb a fyddai deilwng o honi. lihoddir hi yn y testun hwn gan y dyn mwyaf, y penaf o'r holl apostolion, i Tychicus, cydweithiwr âg ef yn ngweinidogaeth yr efengyl, un y cawsai yr apostol drwy hir.adnabyddiaeth a phrofiad o honi bob boddlonrwydd i'w feddwl ei fcd yn llawn deilyngu y dystiolaeth hon am dano. Yn ei Epistol at y Colossiaid, pen. iv. 10, a ysgrifenwyd, fel y tybir, yn yr un flwyddyn a'r Epistol hwn at yr Ephesiaid, rhydd yr apostol yr un ganmoliaeth yn yr un geiriau i'r Tychicus hwn. Pan gymhellwyd fì gan frodyr o'r eglwys alarus hon yn Nghaergybi, ar ddydd angladd eu diweddar weinidog, i draddodi pregeth angladdol ar yr achlysur, ni ellais feddwl am destun mwy cymhwys a phriodol i'r gwrthddrych a'r amgylchiad na'r un a ddarllenais; a chredwn pe buasai Paul heddyw yn fyw ar y ddaear, ac yn adnabod ein hanwyl frawd ymadawedig fel yr oedd yn adnabod Tychicus, ac i ni gael ym- gynghori âg ef ar y mater, y buasai yn pwyntio ar y testun a ddarllen- wyd fel yr un niwyaf priodol i'w ddefnyddio a'i gymhwyso at y gwasanaeth presenol. Teimlir inai gwaitli egn'iol a gofalus ydyw traddodi pregeth ar achlysur fel hwn, rhag, yn un peth, i'r pregethwr osod ei hun yn agored i'r cyhuddiad o fod yn pregethu y dyn—yn gosod y gwas fhwng y gynulleidfa a'r Meistr mawr ei hun; eto, mae genym laweroedd o engreiíftiau yn yr Ysgrythyr yn y rhai y mae hi yn canmol ei dynion santaidd. Yr oedd Taul yn hoíf iawn o ganinol ei frodyr a'i gyd- lafurwyr yn y weinidogaeth, a brodyr a chwiorydd defnyddiol yn yr eglwysi yr un modd; ac ni phelrusai efe ganmol ei hun liefyd, os gwelai fod achos yn galw am hyny; ond gofalai bob amser i briodoli yr holl ogoniant i ras Duw am bob da oedd ynddo, a phob daioni a wnaethid gauddo. Bydd y pregethwr hefyd mewn perygl weithiau o fyned yn rhy bell mewn fl'ordd o organmoliaeth i'r gwrthddrych y traetha am dano, nes lONAWR, 1882. A