Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD; A*R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR," ^^4- ^ttntatmtaetjr imt (gpttlletòfaoltíteijr. GAN J. F. B. Yn ymarferol, ac i amcan yr ysgrif hon, arferir y termau uchod fel dau enw ar yr un peth. Gosodant allan un olygwedd ar y gwirionedd i'r hwn y dwg ein hegiwysi dystiolaeth, er o bosibl y rhaid wrth y ddau i osod allan lawn ystyr ein ff'urflywodraeth eglwysig. Mae Annibyn- iaeth yn golygu absenoldeb o bob rheolaeth allanol—pa un bynag ai oddiwrth Esgob neu Gynadledd—dros eglwys neu gynulleidfa neill- duol. Mae Cynulleidfaoliaeth yn mynegu y gwirionedd cadarnhaol, sef y perthyna i bob cynulliad ar wahan allu hunanlywodraethol, o fewn cylch priodol, ac o dan awdurdod y Pen mawr, Iesu Grist. Yn bresenol, y mwyaf cyffredin, ac o bosibl y mwyaf poblogaidd yw Cynulleidfaoliaeth. Buasai rhai o'n tadau yn tybied hwn yn gam- arweiniol, oblegid iddynt hwy yr oedd yr enw Annibyniaeth yn gosod allan bob peth gwahaniaethol a berthyna i'n fTurílywodraeth. Mae'n hanesyddol amheus a oeddynt yn eu lle yn hyn. Yn y traethodyn a elwir "People called Independents" dadleua Dr. Kennedy, a hyny gyda rheswni da, mai Cynulleidfaoliaeth oedd yr enw cyntaf, a bod yr enw Annibyniaeth yn cael ei arfer gan elynion fel dirmyg. " Yr enw a ddewiswyd ganddynt o'r cychwyn (medd efe) ydoedd Cynulleidfaol- iaeth, a'u ffurflywodraeth yr un gynulleidfaol." A chyda graddau o wrthwynebiad y caniatasant i'r gair Annibyniaeth gael ei gymhwyso atynt hwy na'u ffurfly wodraeth. Dadleua John Cotton yn gryf yn ei erbyn, fel " yn rhy gyfyng mewn rhai ystyriaethau, ac mewn eraül yn rhy eang." A goíyna, " Paham y cymhwysir y term Annibyniaeth atom ni, fel un nodweddiadol o honom, tra nad ydyw yn ein hiawn- ddynodi, nac yn ein gwahaniaethu yn briodol oddiwrth eraill? Os rhaid cael enw neillduol i osod allan ein sefyllfa, ac i wahaniaethu ein trefn oddiwrth yr Eglwys Wladol, nis gwn am ddim mwy priodol na'u galw hwy yn ddosbarthol (clasdcal), a ninau yn GynulleidfaoL" Felly, yn ol Dr. Kennedy, Cynulleidfaoliaeth, ac nid Annibyniaeth oedd yr euw boreuol, a'r un a ddewiswyd yn wirfoddol gan sylfaenwyr cyntaf ein heglwysi. Pa beth gan hyny ydyw Cynulleidfaoliaeth neu Annibyniaeth, ac yn mha beth y gwahaniaetha oddiwrth gyfundrefnau eraill? Yn gyntaf, rhaid ateb mai gosod allan ein ffurflywodracth, y mae yr enwau hyn. Gyda Christionogion yn gyfíredinol yr ydym yn credu mewn w Un Arglwydd, un fíydd, un bedydd." A thra yn cysylltu pwys Chwefror, 1883. d