Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." GAN Y PARCII. GRIFFITH JOHN. S. S. "Gwalior," China Sea, Ebrill 11, 1882. Anwyl Mr. Evans: Mae fy ngwraig yn ysgrifenu at ferched Cymru er cyflawni addewid a roddodd i chwi cyn gadael Lloegr. Addewais inau anfon llythyr i'r Dysg- edydd, ac y mae yn rhaid i minau gyflawni hòno cyn cyrhaedd China, neu ei gadael am fisoedd lawer heb ei chyflawni o gwbl. Mae y canlynol yn benod yn fy mhrofiad, ac yr wyf yn gobeithio y gwna brofi yn ddyddorol i rai o'ch darllenwyr. Gall arwain rhai eneidiau i chwilio am brofiadau yn y bywyd Cristionogol o natur uwch na dim maent wedi fwynhau eto. Os felly, caf gyflawn ad-daliad am yr amser a'r drafferth a roddais i'w hysgrifenu. Mae y poethder mor fawr, a sigliadau y llong yn gyfryw fel mae yn rhaid i mi ofyn genych i faddeu yr holl ddiffygion a welwch yn y llythyr hwn. Mae yn awr fwy nag wyth ralynedd er pan y dechreuais deimlo, megys na theimlais erioed o'r blaen, anfoddlonrwydd i mi fy hun fel Cristion a Chenadwr. Darllenais ac ail ddarllenais y Beibl o'r newydd, ac yno y gwelais fywyd yn cael ei ddarlunio, oedd yn anfesuradwy uwch na dim oeddwn wedi sylweddoli yn fy mhrofiad. Teimlais hefyd nad oedd cyf- oethogrwydd y bendithion addawedig gan ein Harglwydd i'w ddysgyblion erioed wedi eu hamgyffred genyf. Po fwyaf ddarllenwn, yr oedd fy ar- gyhoeddiad yn dyfnhau fod y bywyd a ddatguddir i ni yn y Testament Newydd wedi ei fwriadu i fodoli, nid fel peth dychymygol yn unig, ond i gael ei gorffbri a'i weithio allan yn mywyd pob dysgybl. Fel yr oeddwn yn darllen, yr oedd dymuniadau santaidd yn llosgi o'm mewn. Yr oeddwn yn hiraethu yn angherddol am gyfodi yn y bywyd crefyddol i safle Uawer uwch na'r un oeddwn yn sefyll arno, fel y buasai fy nghymdeithas â Duw yn fwy cyfrinachol a difwlch. Gan hyny, yr oedd fy ngwaedd feunyddiol am feddianiad mor gyflawn o allu dwyfol, fel y buaswn yn medru gwasan- aethu fy Meistr gyda mwy o ffyddlondeb a llwyddiant nag erioed. Yr wyf yn cofio i mi yn haf, 1875, dreulio un dydd Sadwrn yn gyflawn mewn gweddi am fedydd yr Ysbryd Glan. Pan yn dadleu yn daer droswyf fy hun, cyfododd y cwestiwn i fy meddwl, "Paham na fyddech yn ceisio yr un fendith i'r dychweledigion?" Yr oeddwn wedi gwedd'ío lawer gwaith am i'r Ysbryd eu bendithio mewn amryw ffyrdd, ond nid oedd y drychfeddwl am i'r Chineaid gael eu bedyddio yn weithredol â'r Ysbryd yn yr ystyr yr oeddwn yn ceisio am y fendith i mi fy hun, erioed wedi cynyg ei hun i'm meddwl. Ar y funyd hòno, dechreuais ddadleu drostynt hwythau GORPHENAF, 1882. T