Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwyr. HenGyf.— Rhif747.] MAI, 1884. [Cyf. Newydd—Rhif 147. #ftîçrçfÍ! Hnliattîötrççau. GAN Y PARCH. B. DAVIES, TREORCI. Beth 1 A fedr ysgerbydau llewod dclal mel i'r rhai y bu eu bywydau yn safn angeu with eu lladd? A fedr cleddyf Goliath wneud difrod ar ei berchen, yr hwn a fu yn ei ysgwyd nes y dychrynai miloedd dewrion Is- raeH Ai o dŷ y brenin dan y trysordy, y ceir hen garpiau, hen bwdr- fratiau, a rhati'au i godi Jeremiah o'r daeardy y taflold y brenin ef iddo ? Asanteiddirgwefusau halogedig milwyr llwgrwobrwyedig, fel ygallontgy- hoeddi gwirionedd fydd yn dadwneud gwaith eu llywodraeth1? Ayw Rhuf- ain greulawn yn myned i dalu am fordaith genadol Apostol y Cenedloeddî A yw yn bosibl bod gwerth yn rhwystrau bywyd, ac yn atalfeydd llwydd- ianU Pa beth tybed sydd yn cyfansoddi gwerth peth ì Gwahaniaetha dynion yn eu syniadau am yr elfenau sydd yn cyfansoddi gicir werth, a hyn sydd yn cyfrif am dderbyniad a gwrthodiad, am gefnog- aeth a gwrthwynebiad, am ddymuniad i feddianu,ac ofn cael ein goddiweddyd gan bethau a fyddo yn cydweddu neu yn anghydweddu â theimladau ty- neraf, anwylaf, a chysegredicaf ein calonau. Nid yw ein hoffder at bobpeth agarwn yn codi oddiar farn addfed am wir werth y cyfryw; ac nid yw ein casineb at bobpeth a ofnwn yn tarddu oddiar wybodaeth o ddrygioni y cyfryw. Mae gan deimladau calon f wy i wneud â'n gweithredoedd nag a foddlonwn gyfaddef. ymfFrostia dyn fod ganddo farn, ond yn fynych, teimla fwy dros hawliau ei farn nag a ddefnyddia arni. Ped ymyrai eraill â barn dyn mor fynych ag y diorseddir hi gan deimladau calon y dyn ei hun, ystyriai ei fod yn cael ei ormesu, a threthai bob gallu yn ei feddiant i ys- gwyd ymaith y gorthrwm anghyfiawn. Ond y mae llawer ag sydd yn fyw i'w hawliau, ac a gadwant wyliadwriaeth eiddigus ar eraill, y rhai a dybiant ydynt am ysbeilio yr enedigaeth fraint oddiwrthynt, ydynt yn gaethion hollol i deimladau anianol eu calonau, ac nid yw eu gweithredoedd ond corííoliad o ddymuniadau heb un rheswm iddynt. Nwydau cynhyrfus, ac nid egwyddorion sefydlog sydd yn eu llywodraethu. Yr hyn a garant a wnant, ac nid yr hyn a ddylent. Mae teilyngdod neu annheiiyngdod peth- au y tuallan i gylch llywodraeth eu meddyliau. Maent fel y dall sydd yn cario haiarn yn un Uaw ac aur yn y Uall, ond ni wyr yn mha un y mae y naill na'r llall. Mae syniad llawer am werth unrhyw beth yn gyfyngedig i'w dymuniadau—yr hyn a garent feddu sydd yn werthfawr, ond gan nad yw eu dymuniadau yn bur, rhoddir gwerth ar hethau sydd yn golled, yn ddinystriol i ddedwyddwch, cymeriad, a bywyd. Mae uchelgais meddwl hunanol yn anwybyddu perthynas dyn â chymdeithas, ac felly mae cynllunj