Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

393 Cim&tounimt €xúvtàoV Any 12fed a'r 14eg o Fedi ordeiniwyd Mr. D. Tyssil Evans, o New College, yn weinidog yr Eglwys Gynulleidfaol yn Hornsea, ger Hull. Traddodwyd y siars i'r eglwys gan y Parch. J. R. Thonias, Narberth. Yr oedd y cynulliadau ar yr achlysur yn lluosog, ac yn galonogol iawn i Mr. Evans wrth ddechreu ei weinidogaeth. 0 herwydd afiechyd, gorfodir y Parch. Ilenry Simon, Westminster, i ymatal oddiwrth ddyledswyddau gweinidog- aethol am gryn ysbaid o amser. Wedi ugain mlynedd o wasanaeth tra gwerthfawr a chymeradwy fel ysgrifen- ydd Cymdeithas Genadol Llundain, bydd y Parch. Robert Robinson yn ymddi- swyddo tua diwedd y flwyddyn hon. Oydsyniodd y Parch. John Thomas, Trecastell, Brycheiniog, â'r alwad i ddychwelyd i'r Wern, ger Gwrecsam. Ar fyrder cyhoeddir cyfrol o bregethau gan ein cydwladwr talentog a phobl- ogaidd, Dr. Llewelyn D. Bevan, dan y penawd " Crist a'r Oes." Gwneir parotoadau i adeiladu capel newydd hardd a chostus i Eglwys Gyn- ulleidfaol Seisnig Castellnedd, i'r hon y mae y Parch. T. Rhondda Williams (gynt Bethania, Dowlais), yn weinidog. Sicrhawyd safìe ragorol yn un o'r manau mwyaf dymunol yn y dref. Bn farw yr hybarch weinidog, Parch. R. Thomas, Hanover, Mynwy, dydd Sul, y 12fed cynlisol, yn mhreswylfod ei ferch yn Casnewydd, yn 75 ml. oed. Llafuriodd Mr. Thomas yn ffyddlou a llwyddianus yn Hanover am yn agos i ddeugain mlyn- edd. Erys ei goffadwriaeth yn fendigedig. Yr oedd yn llawenydd i ni ganfod cynifer o'n cydwladwyr yn cymeryd rhan yn ngweithrediadau cyfarfodydd Hydref- ol Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chym- ru gynaliwyd yn y Brifddinas ddechreu y mis diweddaf:~Dr. Rees, Abertawe; Dr. Ll. D. Bevan, (lîighbury Quadrant); J. Ogmore Davies (Craven Chapel); J. Ossian Davies (New Court, Tollington Parlc); Wm. Pierce (Leytonstone), &c. Gwelsom yn y Christian World mai araeth Dr. Bevan ar gwestiwn y Neuadd- au Cenadol oedd yr oreu o ddigon gaed yn ystod yr wythnos. Mae y Parch. Henry Griffiths, F.G.S., cyn-athraw Coleg Aberhonddu, dan or- fodaeth i roddi gofal yr Eglwys yn High Barnet i fyny o herwydd gwaeledd, wedi Ilafurio yno gyda chymeradwyaeth neill- duol am naw mlynedd. Yn y cyfarfod ymadawol anrhegwyd ef â note case destlus yn cynwys yr holl gynulleidfa, a phwrs yn cynwys 80 gini. Bwriada Mr. Griffiths ymsefydlu yn Sidmouth, Devon, ac os na bydd yr hinsawdd yno yn ddigon tyner, tebygol yw yr «ä i Algiers. Gwahoddwyd ef i draddodi darlith yr Undeb Cynulleidfaol yn Mai nesaf, ac hyderwn y caiff adferiad llwyr erbyn hyny. Nid yw yn debygol y cynelir cyfar- fodydd Hydrefol yr Undeb Cynulleidfaol y flwyddyn nesaf yn Abertawe, am fod Undeb y Bedyddwyr i'w gynal yno. Cynuìleidfaolwr yw Mr. J. G. Blaine, yr ymgeisydd Gwerinol am Arlywydd- iaeth yr Unol Daleithiau eleni. Yr oedd ei fam yn Babyddes, ac y mae un o'i ferched yn wraig i Babydd. Un o nod- weddion mwyaf arbenig yr ymdrech bresenol ydyw fod yr offeiriaid Pabaidd yn gweitìiio yn egniol o blaid Mr. Blaine. Tra yn son am yr Arlywyddiaeth, ofnir yr enynir cryn deimlad yn erbyn Beecher o herwyddei benderfynolrwydd i gefnogi Cleveland yn erbyn Blaine. Dywed y pregethwr bydenwog mai o ddau ddrwg, goreu dewis y lleiaf, ac y bydd yntau yn gyson, a chredu felly, yn cefnogi Cleve- land. Ond gwerinwyr ydynt fwyafrif aelodau eglwys Plymouth. +—*+- f>aîurçcíntbMaîr CÊtrfgtrltífn ÛDtíítamö tft ÛD^nt. GAN EDMYGWE. MáE "ystyried y dyddiau gynt, blyn- yddoedd yr hon oesoedd," yn nglỳn àgachos Duw, yn enwedig yneu perth- ynas â'r enw?d Annibynol, yn rhoddi llawer o wir fwynhad i ni. Wrth i ni edrych yn ol ar glawr y rhifyn | cyntaf o'r Dysgedydd, yr hwn a ddaeth i allan yn mis Tachwedd, 1821, fel rhag- j redegydd i'rrhifynau dyfodol, y cyntaf o honynfc ymddangosoai yu Ionawr, 1822, gwelwn enw Williams o'r Wern yn mysg ei hyrwyddwyr cyntaf, fel nn