Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—757] MAWRTH, 1885. [Cyf. Newydd—157. ©hrçbbi î)tt n Ptorítottaö a iSgttiabau grç ŵö A DATGUDDIAD. GAN Y PARCH. B. DAVIES, TREORCI. I feddwl sydd heb ei lwyr enill i gydymdeimlad santaidd â'r efengyl, ym- ddengys gweddio yn fwy o ddyledswydd nag o fraint; ond i galon a fyddo wedi cael ei newid gan ras Duw, ymddengys yn fwy o fraint nag o ddyled- swydd. ühydd yr ysgrythyr le amlwg i weddi, a rhydd gweddi amlygrwydd neillduol i'r cymeriad Cristionogol. Mae gweddi yn hanfod y bywyd ysbrydol, a gweddio yn amod dadblygiad y bywyd hwnw mewn santeidd- rwydd dwyfol, defnyddioldeb i Grist, a mwynhad digymysg mewn sefyllfa ddyfodol. Yn ngoleuni y datguddiad dwyfol yn unig y gellir ffurfio barn gywir am weddi, a datguddiad o oleuni a wna wir weddiwr, ac fel canlyniad, nid gweddio oddiar farn, na ffurfio barn am weddio a wna neb, ond bydd syn- iadau a barn wedi eu bfeiniogan ysbryd gweddio, nes galluogi dyn i ffurfio cymeriad a garia ddylanwadar galon, ar gymdeithas, ac ar hanes—-dyfnach dylanwad nag a fedr y dalent fwyaf yn gysylltiedig â'r ddysg eangaf byth ei wneud. Y prif nodwedd a rydd Cristionogaeth i ddyn yw gweddiwr, ac o hwn y mae y Cristion i wneud ei hanes—hanes cysegredig gan gydwybod dynol- iaeth anfarwol, yn nghanol elfenau difaol cymdeithas lygredig a dwyfol, i ddylanwadu yn bur a dyrchafol, fel yr ymgyfyd meddwl ar ddelw gwir- ionedd. Dyma wreiddyn byw cuddiedig y canghenau ffrwythlawn sydd yn plygu o dan bwysau ffrwythau addfed, gan lenwi dwyJaw estynedig y byd, a llawenhau calon y llefarwr tlawd; dyma sylfaen a bywyd holl rasus- au calon grediniol, a nerth anweledig, ond anorchfygoJ, pob cymeriad gwir Gristionogol. Cynwysa Gweddi gymundeb â Duw. Nid cenadwri calon grediniol ydyw, eithr yn hytrach anadl-lef bywyd y dyn newydd. Hyn sydd yn ei ddwyn i gysylltiad â'r byd, ac yn ei wneud yn anmhosibl ei guddio. Buasai yn ddigon hawdd cuddio Moses ar làn y Nilus, oni b'ai fod bywyd ynddo yn mynu dyfod i gyffyrddiad â'r byd, ond yr hyn oedd yn ei gwneud yn an- hawdd i'w guddio, oedd yn rhoddi digon o werth ynddo i demtio ei rieni i'w gadw, ac i dalu am yr anturiaeth. Mae y bywyd ysbrydol yn hawlio cael hòni ei fodolaeth, ac o'i gymundeb â Duw y derbynia nerth i ddyfod i berthynas â'r byd. Mae cymundeb â Duw yn ffaith. Gall yr athronydd ei gwadu, a'r gwawdiwr ei chablu, ond y mae y ddau yn am- ddifad o allu i weled ei gogoniant. Perthyna i fyd arall, a goleuni hwnw yn unig a'i dengys. Gorchuddir y Jyffryn isel gan niwl trwchus, yr hwn