Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

*• Y DYSGEDYDD: a'h hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—763.] MEDI, 1885. [Cyf. Newydd.—163. <®xtrjr^tt gr ^ìtfíi ttteftm Clahrçttgfrìr: PREGETH ANGLADDOL Y PARCH. W. NICHOLSON, LE'RPWL.» GAN Y PAROH. DAVID ROBERTS, WREXHAM. "Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy liun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw."—Actatj xx. 24. Dyma brofiad yr apostol, ac yn eglur iawn dyna oedd profiad ein hanwyl frawd. Yn y peth yma yr oedd yn arbenigol yn olynydd yr apostol—fel un wedi ymroddi yn hollol i'r weinidogaeth, ac i dystiolaethu efengyl gras Duw. Fel Paul, gwr oedd yntau a welodd flinder. Gwelodd ein hanwyl frawd aml a blin gystuddiau; yr oedd yn marw dan fyio, ac yn byw dau farw er's blynyddoedd yn ein golwg. Bu mewn blinderau yn helaethach na nemawr o'i frodyr, ei arteithiau dros fesur, mewn llafur a lludded, mewn anhunedd yn fynych; ie, gellir dweyd am dano ei fod mewn marwol- aethau yn fynych. Bu yn actio marw yn amlach na nemawr ddyn; dywedai ei fod wedi bod haner y ffbrdd drwy y giyn, a bod braidd yn ddrwg ganddo ei fod wedi dyfod yn ol, gan y byddai yn rhaid iddo fyned drwy yr haner hòno eto. Yr oedd yn gynefin â marw; dywedai ei fod wedi rhodio cymaint yn ngolwg, ac yn swn yr afon, nes nad oedd arno nemawr o ofn myned drwyddi. Yr oedd ei brofiad yn addfedu yn gyflym. Dyn da yr ystyriem ein hanwyl frawd erioed; ond yr oedd yn addfedu yn gyflym iawn yn yr ychydig ddyddiau diweddaf. Yn wir, y mae calon y dyn duwiol rywfodd yn teithio yn gyflymach na'i gorff; er mor gyflym y mae hwnw yn myned trwy y gwahanol raddau, y mae ei galon yn cadw ar y blaen arno, ac yn galw arno, " Tyred yn dy flaen, yr ydwyf fi yn myned." 0! mae ei galon flynyddoedd o'i flaen yn aml. Y mae hi wedi myned i dragwyddoldeb i'w ddysgwyl, ac i roddi crcesaic calon iddo. Y mae yma rai, er fod eu cyrff ar y ddaear, y mae eu calon wedi gwneud ei chartref yn y nefoedd er's talm. Rhyw ddyfod yma yn awr ac eilwaith i'w gyfarfod y mae, i ofyn a ydyw efe yn dyfod. Y mae yn gwrthod pethau y byd yma cyn iddo eu cadw oddiar y bwrdd, "Ni fynaf fi ddim ychwaneg!" A dywed wrth y byd, fel y dywedodd Daniel wrth Belsassar, "Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall." "Dyro dy brydferthwch i rywun a all eu gweled, nis gallaf fi ddim." Y mae y rhai oedd yn edrych drwy y ffenestri wedi tywyllu yn gwbl i bethau y ddaear hon. Y mae y dyn duwiol yn * Parotowyi y sylwadau hyn, ar gais y teulu, i'w traddodi yn Nghapel Grove St., Liverpool, noson yr angladd, ar rybudd byr. 2 B