Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—768.] CHWEFROR, 1886. [Cyf. Newydd—168. II. YR YSGRYTHYRAU FEL DATGUDDIAD DUW. aAN Y PRIFATHRAW J. MORRIS, D.D., ABERHONDDU. Yn ol y dull cyffredin o siarad, y mae'r "Ysgrythyrau" a "Datguddiad Duw" yn cael eu cyfrif yn ymadroddion cyfystyr. Weithiau gelwir y llyfr santaidd yr Ysgrythyrau, neu'r Ysgrythyr, ac weithiau gelwir ef yn Ddat- guddiad Duw; ond yr un peth a feddylir wrth y gwahanol ymadroddion. ünd y mae rhai duwinyddion yn gwneud gwahaniaeth mewn ystyr yn y ddau ymadrodd. Golygant ei bod yn f\vy cywir i wahaniaethu yn y defn- yddiad o honynt. Gwell ganddynt hwy ddweyd fod yr Ysgrythyrau yn cynwys Datguddiad Duw, na dweyd fod yr Ysgrythyrau euhunain yn Ddat- guddiad Duw. Ac os cedwir at ystyr briodol y gair "Datguddiad," mae'n rhaid cyfaddef nad yw yn briodol defnyddio y gair am yr holl Ysgrythyrau. Y mae y Beibl yn cynwys llawer o bethau heblaw y datguddiad dwyfol. Cynwysa nid yn unig air Duw, ond hefyd geiriau dynion, ac hyd yn nod geiriau cythreuliaid. Ond rhaid bod yn ofalus ar y pen hwn, canys mae rhai ag sydd yn gwahaniaethu rhwng y Beibl a'r Datguddiad a gynwysir ynddo, yn gwadu ysbrydoliaeth y llyfr. Yn ol eu tyb hwynt, nid ydyw'r llyfr ond llestr pridd yn dal y trysor dwyfol. Mae yn beth tra chwithig fod rhai yn ein dyddiau ni, ag sydd yn Gristionogion mewn proffes, yn hòni nad yw'r Beibl ond llyfr o waith dynion yn unig. Tra yn cydnabod fod datguddiad goruwchnaturiol wedi ei roddi, dywedant fod y cofnodiad o hono a geir yn yr ysgrythyrau mor anmherffaith ac anghywir fel nas gellir yn hoílol ymddiried ynddo. Darfu r ysgrifenwyr, meddant, wneud eu goreu i fynegu i'r byd y datguddiadau a wnaeth Duw o hono ei hun; ond o herwydd rhagfarnau cenedlaethol, a gwendidau personol, yr oeddynt yn analluog i roddi mynegiad cywir o'r gwirionedd. Mae llawer o ûs yn gymysg â'r gwenith yn ol eu tyb hwy, ac am hyny, y mae yn gofyn llawer o ddysgeidiaeth, a llawer o ddyfal-chwilio, i gael allan yr hyn sydd yn wir ac yn haeddu derbyniad. Nid yw pawb ag sydd yn cyfynguy datguddiad dwyfol i ranau neillduol o'r ysgrythyrau, yn gwadu fod yr ysgrifenwyr Beiblaidd dan arweiniad neillduol yr Ysbryd Glan. Credant yn nwyfoldeb y datguddiad, ac hefyd yn nwyfoldeb y llyfr. Credant mai Duw yw awdwr y grefydd, a chredant ar yr un pryd mai Duw yw awdwr y llyfr ag sydd yn gosod allan y grefydd. Pa beth yw'rdatguddiadag sydd genymyn y Beibl? Dywed rhai ei fod yn gynwysedig, nid mewn geiriau yn unig, ond hefyd mewn gweithredoedd, ac mewn gweithredoedd yn fwy nag mewn geiriau. Dywed un awdwr