Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibvnwr." Hen Gyf.—770.] HYDREF, 1886. [Cyf. Newydd—176. GAN Y PARCH. W. ROBERTS, LIYERPOOL. " A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnw ; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi ? Ac ni fyiîai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato èf i ddinas Dafydd ; ond Dafydd a'i trodd hi i df Obed-Edom y Gethiad. Ac arch yr Arglwydd a arosodd yn nhy Obed-Edom y Gethiad dri mis : a'r Arglwydd a fen- dithiodd Obed-Edom, a'i holl dŷ. A mynegwyd i'r brenin Dafydd, gan 'ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dý Obed-Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd."—2 Sam. yì. 9—12. Math o gist ydoedd yr arch, a'i mesuriad yn dair troedfedd a naw modfedd o hyd, a dwy droedfedd a thair modfedd o led, a'r un faint o uchder. Yr oedd wedi ei gwneuthur o goed Sittim, a'i gorchuddio âg aur oddimewn ac oddiallan, fel nad oedd dim o'r coed i'w gweled. Yr oedd ei chauad, sef y drugareddfa, yn aur pur; ac yr oedd dau gerub "o gyfanwaith morthwyl o aur" yn sefyll " un yn y naill ben, a'r llall yn y pen arall" iddi, ac "yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio y drugareddfa â'u hesgyll, a'u hwyneb- au bob un at eu gilydd," ac yn gogwyddo at y drugareddfa. Rhwng y ddau gerub hyn, ar y drugareddfa, yr arosai y Secinah, neu yr arwydd o'r presenoldeb Dwyfol, ac oblegid hyny y dywedir fod yr Arglwydd yn " trigo rhwng y cembiaid." Yr oedd dwy fodrwy aur ar bob ochr i'rarch, trwy y rhai y rhoddid trosolion o goed Sittim, wedi eu gwisgo âg aur, â pha rai y dygid yr arch ar ysgwyddau yr offeiriaid a'r Lefìaid. Yr arch ydoedd y dodrefnyn mwyaf ardderchog a chysegredig a berthynai i'r tabernacì, ac yr oedd yn wastad yn orchuddiedig pan y dygid hi allan. Gelwir hi yn "arch y dystiolaeth " ac yn " arch y cyfamod," am fodllechau y cyfamod yn gorwedd ynddi. Ac yr ydoedd mor santaidd, fel na feidd- iai neb gyffwrdd â hi, nac hyd yn nod edrych arni. Y mae hanes yr arch yn cynwys llawer o ddygwyddiadau rhyfedd a dy- ddorol iawn. Yr oedd yn myned o flaen y genedl i'w harwain ar ei theith- iau yn yr anialwch, a pharodd ei phreseuoldeb hi i'r lorddonen frawychu a throi yn ol, er rhoddi ffordd rydd i " Israel fyned drosodd ar dir sych;" a syrthiodd caerau Jericho, am ei bod hi yn yr orymdaith a amgylchynai y ddinas. Ar ol cyrhaedd gwlad Canaan, dygodd y bobl yr arch yn gyntaf i Gilgal, ac wedi hyny i Siloh, lle bu'n aros, fel y tybir, am dri chan' mlynedd, sef hyd amser Eli. A'r pryd hwnw, bu rhyfel rhwng Israel a'r Philistiaid ; ac wrth weled eu bod yn colli y dydd, dygodd Israel yrarch i faes y frwydr, gyda dysgwyliad ofergoelus y byddai iddi sicrhau buddugoliaeth i'r Hebre- aid. Ond yn Ue hyny, hwy a siomwyd ac a orchfygwyd, " ac arch Duw a ddaliwyd." Cymeroddy Philistiaid yr arch i Asdod, "ac a'i dygasant i mewn i dŷ Dagon, eu duw," fel arwydd o'i fuddugoliaeth ar Dduw yr Hebreaid -3 2 E