Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—781.] MAWRTH, 1887. [Cyf. Newydd—181. Crçaçíípìrau ^uunntt&ìwL X.-SYNIADAU DIWEDDAR A GORUWCHNATURIOL MEWN CREFYDD. GAN Y PARCH. D. M. JENRINS, LIVERPOOL. YSGRIF I. Wrth " syniadau diweddar" yn y cysylltiad hwn, yr ydym yn golygu y syniadau hyny a roddant fynegiad yn fwyaf effeithiol i ysbryd meddyliol yr oes yr ydym yn byw ynddi. Fe nodweddir pob cyfnod o fywyd meddyliol grymus yn banes dyn gan ryw duedd neu ogwyddiad llywodraethol, a elwir yn gyffredin yn ysbryd yr oes. A'r syniadau sydd wedi eu ffurfio yn fwyaf cwbl dan ddylanwad yr ysbryd neillduol hwn yn yr haner olaf o'r ganrif bresenol, yw y rhai y gorphwys arnom ni yn awr geisio deall eu hystyr, a dangos eu harweddiad ar y ffydd sydd genym mewn datguddiad goruwch- naturiol. Ond wrth gysylltu y gair " diweddar " â'r syniadau hyn, byddai yn gam- syniad i ni dybio fod nemawr ddim ynddynt sydd yn eiddo arbenig i'r cyfnod a enwyd, canys y mae gwreiddiau a ffurfiau mwyaf cynhenid bron yr oll o honynt i'w cael mewn cyfnodau pell yn y gorphenol. A'r hyn yn neillduol sydd yn rhoddi iddynt y wedd o newydd-deb a diweddarwch ydyw fod rhyw- beth yn nglŷn âg ymchwiliadau a darganfyddiadau gwyddonol ein dyddiau ( ni sydd wedi eu hacenu yn fwy dwfn, ac wedi enill iddynt le mwy amlwg yn' mywyd cymdeithas yn gyffredinol. Wrth fod yr egwyddorion hyn yn gweithio eu hunain allan yn meddwl yr oes, ymddangosant fel yn symud i gyfeiriadau sydd yn bell iawn oddiwrth eu gilydd. Fel yr afonydd mewn ambell wlad, sydd yn llifo ar hyd ac ar draws o herwydd y gogwyddiadau amrywiol a roddwyd gan ysgydwadau a daeargrynfäau henafol i'w water- shed, eto y maent yn cyfarfod â'u gilydd oll yn yr un môr. Ac wrth i ni chwilio am ddesgrifiad byr ac unol, ond cynwysfawr, o'r syniadau hyn yn eu gogwyddiadaü eithafol, yr ydym yn teimlo y byddai yn anhawdd cael gwell i ateb pwrpas yr ysgrif hon na'r un a roddwyd yn ddiweddar gan Dr. Fair- bairn yn ei " City of God;" sef Holl-anianaeth (Pcm-physicism); ymgais i esbonio natur yn yr oll ag ydyw trwy gymhorth natur ei hunan yn unig, heb gymeryd y goruwchnaturiol mewn unrhyw agweddiad arno i'r cyfrif. Ond nid yw y duedd feddyliol a ddesgrifìr yn y term holl-anianaeth, yn ddadblygiad meddyliol newydd perthynol i'n dyddiau ni yn unig, canys yr oedd yr athronydd enwog Leibnitz wedi rhoddi desgriflad cyffelyb o ogwydd feddyliol y byd, ddau can' mlynedd o flaen Dr. Fairbairn. Wrth gyfeirio at rai o'r damcaniaethau athronyddol a ymweithient drwy fywyd Ewrop yn ei ddyddiau ef, dywed y meddyliwr dwfn-dreiddiol hwnw, mewn Hythyr at