Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DY8GEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 783.] MAI, 1887. [Cyf. Newydd—183. Hmbìrtfíìitt ©ftririanEîẃ jtr CfjenggL 6AN Y PARCH. R. P. WILLIAMS, EBENEZER. [Pregeth a draddodwyd raewn ffurf o gynghor i eglwysi Maesydref, a Bozrah, yn Arfon, ar achlysur ordeiniad Mr. Isaac Jones, o Goleg Annibynol Bangor, yn weinidog yr eglwysi, Rhagíyr 8fed a'r 9fed, 1886.] 11 Yn unier ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absenol, y clywyf oddiwrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, âg un enaid, gan gydymdrech gyda ffÿdd yr efengyl; ac heb eich dychrynu mewn un dimganeich gwrthwynebwyr."—Phil. i. 27, 28. Y mae achlysur fel yr un presenol, o ordeinio i gyíiawn waith y weinidogaeth, wedi cael edrych arno, nid yn unig gan ein henwad ni, ond gan bob enwad o Gristionogion yn gyffredinol, yn un priodol a chymhwys i alw sylw mewn rhan at natur, ac mewn rhan at rwymedigaeth yr Eglwys Gristionogol. Ac y mae yn ddiau briodoldeb neillduol yn yr arferiad, er fod perygl i ni ddadleu ac ymryson mwy am natur eglwys, na chyflawni ein rhwymedigaethau fel aelodau o honi. Y syniad sydd gan yr apostol am eglwys yn y geiriau hyn ydyw dinasyddiaeth. Fel > r oedd cysylltiad naturiol rhwng" Philippi fel trefedigaeth (colony) â Rhufain, felly hefyd yr oedd cysylltiad ysbrydol cydrhwng yr eglwys fel dinasyddiaeth â'r nefoedd. Y mae y gair a gyfieithir yma yn ymddygwch yn cyflëu yr ystyr o ymddwyn fel deiliaid o wiadwriaeth. Nid cyflawni eu dyledswyddau gwladol fel Cristionogion a olygir, ond dangos mai trwy yr efengyl y gwnaed hwynt yn ddeiliaid o wladwriaeth nefol, a bod i'r wladwriaeth hòno gyfreithiau a dyledswyddau penodol, ac mai unig ddyledswydd fawr eu bywyd ydoedd actio eu gwladwriaeth yn deilwng o'r efengyl. Un prawf o'u rhodiad addas i'r efengyl fyddai eu gwaith yn sefyll a chydymdrechu o blaid y deyrnas yr oeddynt yn ddeiliaid o honi, ac yn filwyr drosti, a gwneuthur hyny hefyd yn ddigryn, heb eu dychrynu mewn un dim gan eu gwrthwynebwyr. Fel yr oedd holl nerth ac adnoddau yr Ymerodraeth Rufeinig o blaid y drefedigaeth fechan oedd yn amcanu cadw y terfynau rhag y gelynion, felly hefyd y mae holl allu yr ymerodraeth ddwyfol o blaid yr eglwys sy'n amcanu amddiffyn ffydd yr efengyl. Prif fater yr apostol yn yr adnodau hyn ydyw:— Rhwymedigaeth yr Eglwys i Amddiffyn Gwirionedd yr Efengyl. Ysgrifenai Paul at Timotheus am ''eglwys y Duwbyw" " fel colofn a sylfaen y gwirionedd." Nid fod yr eglwys yn rhoddi bod i'r gwirionedd, na