Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—785.] GORPHENAF, 1887. [Cyf. Newydd—185. Ânerchiada draddodwyd o Gadaìr yr Undeb Cymreìg yn Nolgeììau, Meh. 15. GAN Y PARCII. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. Anwyl Frodyr,— Mae sefyll ger eich bron yn y fan hon lieddyw, yn diliuno yn fy mynwes lawer o adgofion cynhesarn y tymhor byr a dreuliais yny gymydogaeth yma, cyn myned i'r weinidogaeth, fwy na phymtheg mlynedd ar hugain yn ol. Ac y mae cofradwriaeth y tadau yn y weinidogaeth a lafurient gyda pharch a chymeradwyaeth mawr yn y parthau hyn y pryd hwuw, yn fendigedig genyf. Daethum i gydnabyddiaeth agos â dau o honynt yn neillduol, a chefais hwynt yn gefnogwyr caredig ar gychwyniad fy ngyrfa bregethwrol, sef y siriol, y dirodres, a'r derbyniol Eobert Ellis o'r Britíidir; a'r pwyllog, y synwyrlawn, a'r hynaws Cadwaladr Jones, hen gynweinidog hybarch yr eglwys barchus sydd yn ymgynull yn yr addoldy hwn. Mae enwau y gwŷr rhagorol hyn yn berarogl yn yr ardal hon, apharhânt felly am amser maith. Gyda golwg ar y sefyllfa yr ydwyf, trwy eich pleidlais garedig chwi fel Undeb, yn cael fy hunan ynddi yma heidyw, yr wyf yn meddwl y gallaf eich sicrhau, nad ydyw " chwenyeh y piif-gadeiriau " yn un o'r " pechodau parod i'm hamgylchu ;" ac felly na ddangosais erioed unrhyw awydd am y gadair hon ; ond nid ydwyf, o herwydd hyny, mewn un modd, yn dibrisio nac yn diystyru yr arwydd hwu o'ch parch a'ch ymddiried. Ar yr un pryd, y mae y teimlad o'r cyfrifoldeb cysylltiedig âg anerch cynulliad lle y mae y fath gydgrynhoad o dalent a diwylliant yr enwad, ag a geir yma heddyw, wedi bod yn faich trwm i mi ar hyd y flwyddyn; ac un o'r pethau a barent bryder mawr i mi, am amser maitb, wrth edrych yn mlaen at y cyfarfod hwn oedd, yr anhawsdra a deimlwn i benderfynu ar destun cyfaddas ; a hyny yn enwedig am fod amryw o destynau y buaswn yn hoffi ymdrin â hwynt, wedi eu trafod yn fedrus eisoes, gan frodyr galluog sydd wedi llenwi y gadair hon mor llwyddianus ac anrhydeddus yn nghyfarfodydd blaenorol yr Undeb. Y testun, pa fodd bynag, y tueddwyd fy meddwl ato, ar ol llawer o betrusder, ydyw— YR EGLWYS APOSTOLAIDD. Prin y mae angenrheidrwydd i mi fynegu mai yr hyn a olygaf wrth yr Eglwys Apostolaidd yw—pawb oeddynt yn arddel ac yn proífesu Crist yn yr oes Apostolaidd. Yr oedd yr Eglwys Iuddewig, fel y mae yn hysbys, yn gyfyngedig i un wlad a chenedl neillduol; ond y mae yr Eglwys Gristionogol yn gymdeithas annibynol ar bob gwahaniaethau cenedlaethol; ac felly yn cymeryd i fewn ddynion o bob gwlad a chenedl yn ddiwahaniaeth. Cym-