280 üarhttrfarçffc a CÇIabtaMgaEífi & parçclî. C Wlẅttl* (SCORPION), LLANRWST. GAN Y PARCH. E. T. DAYIES, ABERGELE. Yr oedd Mi. Roberts wedi bod yn teimlo yn wael am rai wythnosau; ond ddydd Mercher, yr wythfed o Mehefin, y cymerwyd ef i'r gwely yn llwyr, a'r dydd Sabbath canlynol, am ddau o'r gîoch prydnawn, *" hunodd yn yr angeu," yn dawel iawn, heb gymaint ag ochenaid. Yr oedd y parlys wedi gaf- aelyd ynddo, a daliodd a thynhaodd ei afael yn raddol nes llwyr orphen ei Avaith ! Yr oedd ein cyfaill wedi llwyr golli ei leferydd am rai dyddiau, ond nid ymddangosai ei fod yn teimlo fawr o boen hyd y diwedd. Ddydd Iau, am 3 o'r gloch prydnawn, daeth tyrfa fawr yn nghyd, o bell ac o agos, i "dalu'r gymwynas olaf," ac i ddangos eu parch diffuant iddo. Cyfar- fyddwyd yn gyntaf yn yr addoldy, lle y darllenwyd rhanau o'r Ysgrythyr gan ysgrifenydd y llinellau hyn, ac y gwedd- iodd y Parch. H. Rees, Bryngwran. Wedi hyny, cafwyd anerchiadau gan y Parchn. M. D. Jones, J. Myrddin Thomas, Machreth Rees, Rowland Wil- liams (Hwfa Mon), a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. R. Parry (Gwalch- mai). Wrth y ty, cyn cychwyn i'r gladdfa, gweddiodd y Parch. R. Thomas o'r Rhyl; wedi hyny, ymffurfiwyd yn orymdaith i'r fynwent. Y gweinidogion yn arwain, ac yn dilyn, diaconiaid y gwahanol eglwysi, yr elor, y perthyn- asau, ac yn olaf y íluaws—ac yr oedd Îno luaws. Tystiai rhai a adwaenent y le yn dda, na welwyd angladd mor fawr yn Llanrwst er's blynyddoedd lawer. Wedi dodi y corff yn y bedd, a darllen eto ranau o'r Ysgrythyr, cafwyd anerch- iadau gan y Parchn. R. Rowlands o Dreflys, a Dr. Thomas o Liverpool, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. W. Roberts (T.C.), Llanrwst. Yr oedd Mr Roberts yn ei 70 flwyddyn. Genedigol o Ddinbych ydoedd; mab i hen gynieriad hynod. ddoniol a duwiol, Harri Roberts. Dechreuodd bregethu o dan weinidogaeth y Parch. W. Rees. Aeth i'r ysgol i Dreffynon, dan ofal y diweddar Barch. W. Jones; ac oddiyno derbyuiwyd ef yn un o'r deuddeg cyntaf i Athrofa y Gogledd, a gychwynwyd yn Llanuwchllyn. Wedi aros yn yr athrofa hòno dros ddwy flynedd, derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu, ac wedi bod yno am bedair blynedd llawn, a chael galwad o Lanuwchllyn i fod yn olynydd i'r Hybàrch M. Jones, A'r hon y cydsyniodd, urddwyd ef yno yn mis Ebrill, 1847. Symudodd oddiyno i Newmarket, Swydd Fflint, ac oddiyno i Lanrwst. 0 herwydd Uesgedd, bu raid iddo roddi ei ofal bugeiliol i fyny tua 5 mlynedd yn ol; oud yn ystod y pum' mlynedd diweddaf, pregethodd lawer yma a thraw gyda chymeradwyaeth mewr. Priododd yn fuan wedi ymsefydlu yn Llanrwst â Miss Jones o'r Post Office, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo am fiynyddau lawer. Cafodd hi ei symud tuag S mlynedd yn ol, a dwys ond dystaw fu ei alar ef ar ei hol hyd derfyn ei yrfa. Fel dyn, fel Cristion, ac fel gweinidog yi efengyl, yr oeddyn rhagori yn mhell ar y cyffredin. Yr oedd yn ddyn hynod —hynod o ragorol; ond fel awdwr yr oedd yn tra ragori. A all fod gan rywun hawl i ddigio am i ni ddweyd ein bod yn credu ei fod ef fel traethodydd ac awdwr erthyglau, &c., os nid y penaf, yn uchel iawn yn rhestr y dosbarth cyntaf. Dy- lai ei ysgrifau yn y Dysgedydd ar Ryfel y Crimea, Llythyrau " Caleb Jones," y cofiantau, &c, gael eu casglu a'u cyhoeddi yn gyfrol ddestlus. Pe gwneid hyny, rhoddai bleser ac adeilad- aeth nid bychan i luaws nas gwyddant yn awr fod nemawr o honynt mewn bod. Y mae Yr Esboniad Cyflawn yn rhwym o gael ei werthfawrogi. Mae yn eglur, cryno, a chynwysfawr. Darfu i Mr. Roberts weithio yn ddiwyd i roddi cy- maint o ddefnydd a meddwl mewn cyn lleied o eiriau. Ysgrifenai Pascal (mewn O.Y. llythyr a anfonai at yr Esgob) i ofyn maddeuant am feithder ei lythyr y tro hwnw, gan nad oedd ganddo amser i'w wneud yn fyrach! Y mae byrdra ac eglurder yr Esboniad yn ddihafal. Yr oedd y Testament Daearyddol hefyd, yn ei radd, yn dangos llawer o'r unrhyw ragoriaethau. Siomedigaeth nid bychan i'r wlad yn gyffredinol ydyw ei fod wedi ei symud cyn gorphen yr hyn oedd wedi ymgymeryd âg ef gyda'r fath bryderus yni. Ond nid oes genym yr amheuaeth lleiaf na bydd i'r hyn a ysgrifenodd o gofiant Hiraethog, pan daelo allan, swyno a thrydanu y miloedd. " Gofid sydd arnaf am danat ti, fy mrawd; cu iawn fuostgenyf fi; rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tuhwnt i gar- iad gwragedd!" Nyni a awn ato ef, ond ni ddychwel efe atom ni. Heddwch i'w lwch! Nawdd rhagluniaeth y nef fyddo dros ei blant amddifaid, a Duw pob gras a'u gwnelo yn etifeddion gras y bywyd!